Coronafeirws: Mesurau newydd a rhybudd am gyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyfraddau coronafeirws Cymru yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd

Mae 2,000 o achosion newydd Covid yng Nghymru yn ffurf newydd o amrywiolyn Delta - un sydd o bosib yn fwy trosglwyddadwy, medd y Prif Weinidog.

Wrth gyhoeddi canlyniad adolygiad y tair wythnos diwethaf, dywedodd Mark Drakeford mai cyfraddau coronafeirws Cymru yw'r uchaf yn y DU ar hyn o bryd.

Mae'r gyfradd bellach yn uwch na 700 achos ymhob 100,000 o bobl - yr uchaf yng Nghymru ers cofnodi ffigyrau'r pandemig.

Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru brynhawn Gwener, cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd yn rhaid ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau oni bai bod cyfraddau coronafeirws yn dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pleidlais ar ymestyn y pàs yn y Senedd

Bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero, medd Mr Drakeford, ond bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno - yn eu plith ymestyn y defnydd o pàs Covid i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd.

Bydd pleidlais yn y Senedd ar ddefnydd pellach o'r pàs.

Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr dywedodd Mr Drakeford mai'r bwriad yw cynnal pleidlais ddydd Mawrth ar ôl y nesaf - cyn i'r newidiadau ddod i rym ar 15 Tachwedd.

"Fe fydd hi fyny i bob plaid benderfynu sut maen nhw'n pleidleisio ond dwi'n meddwl ei bod yn iawn rhoi cyfle i'r Senedd bleidleisio cyn, yn hytrach nag ar ôl, i'r penderfyniadau newydd ddod i rym."

Dim ond o drwch blewyn y llwyddwyd i gyflwyno pasys yng Nghymru a hynny wedi i un AS Ceidwadol fethu â phleidleisio o bell.

'Ymhell o fod ar ben'

Dywedodd Mr Drakeford: "Dros y tair wythnos diwethaf, mae nifer yr achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'r cyfraddau uchaf i ni eu gweld ers i'r pandemig ddechrau, ac mae mwy o bobl yn mynd mor ddifrifol wael nes bod angen triniaeth ysbyty arnyn nhw.

"Mae hynny'n golygu bod y pandemig ymhell o fod ar ben.

"Mae angen i ni gymryd camau nawr i gryfhau'r mesurau sydd yn eu lle ar lefel rhybudd sero er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu hyd yn oed ymhellach, a gweld mwy o bobl yn mynd yn ddifrifol wael."

Disgrifiad,

Mark Drakeford yn dweud fod angen i'r achosion ostwng er mwyn osgoi rheolau newydd

Bydd rhai mesurau ychwanegol yn cael eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl, meddai:

  • Mae'r canllawiau hunan-ynysu yn newid. Bydd gofyn i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant rhwng 5 a 17 oed hunan-ynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negatif os bydd rhywun ar eu haelwyd yn arddangos symptomau neu'n cael prawf positif ar gyfer Covid-19;

  • Bydd rhaid i bobl sydd heb gael eu brechu barhau i hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i'w haelwydydd;

  • Bydd cymorth pellach yn cael ei roi i benaethiaid ysgolion er mwyn gosod mesurau yn gyflym os bydd cyfraddau yn uchel yn lleol;

  • Bydd staff a myfyrwyr ysgolion uwchradd hefyd yn cael eu hannog i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos;

  • Yn dilyn pleidlais, ymestyn y defnydd o'r Pàs Covid i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd - lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull o dan do, yn agos at ei gilydd, am gyfnodau hir ar y tro.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Gobeithio y bydd y camau hyn yn helpu i atal y llanw o ran yr amrywiolyn Delta.

"Does dim un ohonom ni am weld y cyfyngiadau yn dychwelyd, ond os bydd y cyfraddau yn parhau i godi, ni fydd gan fy nghabinet ddewis ond ystyried codi'r lefel rhybudd yn yr adolygiad nesaf.

"Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd fel tîm i atal lledaeniad y coronafeirws, a diogelu Cymru a'i chadw ar agor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r newidiadau teithio i rym yng Nghymru ar 1 Tachwedd am 04:00

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gytuno i'r newidiadau diweddaraf i'r rheolau teithio rhyngwladol, gan gynnwys tynnu pob un o'r gwledydd o'r rhestr goch.

Mae'n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i deithwyr i Loegr o Colombia, Periw, Panama, y Weriniaeth Ddominicaidd, Haiti, Venezuela ac Ecwador beidio â gorfod cael cwarantin mewn gwesty.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan ei bod yn anodd iddi wneud pethau'n wahanol o ran rheolau teithio rhyngwladol.

Yn y cyfamser, mae bron i 400,000 o bobl wedi cael eu pigiad atgyfnerthu ar gyfer yr hydref ers i'r rhaglen gael ei lansio, ac mae dros 40% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu brechu.

Mae prif swyddogion meddygol y DU hefyd wedi gofyn i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) am gyngor ar fyrder ynghylch lleihau'r bwlch rhwng ail ddos y brechlyn a'r pigiad atgyfnerthu.

Mwy o gyfyngiadau'n heriol

Wrth ymateb i'r newid ar ddefnydd pasys Covid, dywedodd prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon na fydd cyflwyno mwy o gyfyngiadau'n "cael effaith positif" arnyn nhw.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Gwyn Roberts bod denu pobl yn ôl mewn i'r theatr a'r sinema wedi bod yn "eitha' anodd".

"Dwi'm yn meddwl bod cyflwyno pasys yn mynd i helpu hynny.

"Mae lot o'n cynulleidfa ni yn hŷn, falle 'dyn nhw ddim mor barod i fynd ar y we i gael y pasys 'ma, 'da chi'n gorfod adnewyddu nhw fel dwi'n deall bob 28 diwrnod.

"Mae'r profiad yn Ewrop lle mae hyn 'di cael ei gyflwyno yn theatrau a sinemâu yn awgrymu bod y gynulleidfa yn lleihau pan mae'r mesuriadau'n dod i fewn."

Ychwanegodd fod yna ddiffyg cysondeb ynglŷn â'r math o gyfyngiadau sydd mewn lle ar gyfer lleoliadau gwahanol.

"Pam bod hi'n iawn i fynd i dafarnau er enghraifft neu i ddigwyddiadau chwaraeon heb fygydau ac yn y blaen lle mae 'na filoedd o bobl, ond mae 'na gyfyngiadau mewn llefydd llai de? Mae pobl yn stryglo i weld y cysondeb weithiau."

Dim gwahardd torf chwaraeon

Wrth gael ei holi am ddigwyddiadau chwaraeon dywedodd Mark Drakeford nad oedd hi'n fwriad ganddo wahardd torfeydd rhag mynd i ddigwyddiadau fel gemau'r Chwe Gwlad y gwanwyn nesaf.

Ddydd Sadwrn fe fydd Cymru yn wynebu Seland Newydd - y digwyddiad â'r dorf fwyaf ers codi'r cyfyngiadau.

Bydd hi'n ofynnol dangos pàs Covid.

"Fe fyddai i yn y gêm ddydd Sadwrn, ac yn dangos fy mhàs Covid wrth fynd mewn", medd Mr Drakeford.

"Bydd hynny'n rhoi hyder i fi fod pawb arall yn Stadiwm Principality wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael prawf LFT yn fuan cyn dod."

Ychwanegodd bod y broses o ddangos pasys wedi cael ei rheoli'n dda mewn gemau pêl-droed mawr yng Nghymru.

Ymateb y gwrthbleidiau

Wrth ymateb dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod ei blaid yn parhau i geisio canfod tystiolaeth am werth pasys Covid.

"Dyw yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd ddim yn gweithio," meddai.

"Fel ag o'r blaen fe fyddwn yn parhau i weithio'n drawsbleidiol gan wrando ar gyngor gwyddonol i ganfod y ffordd orau ymlaen ond dwi'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar gyflwyno ystod eang o gamau."

Dywedodd llefarydd iechyd Ceidwadwyr Cymru, Russell George, y byddai ei blaid yn pleidleisio yn erbyn defnydd pellach o'r pasys gan nad ydynt yn argyhoeddedig mai "dyma'r ateb gorau".

"Roeddem yn eu gwrthwynebu adeg y bleidlais wreiddiol ac ry'n yn parhau i'w gwrthwynebu," meddai.

"Does dim tystiolaeth bod pasborts brechu yn gweithio gan bod niferoedd yr achosion o Covid yng Nghymru wedi codi ers iddynt gael eu cyflwyno."

Ychwanegodd na ddylid amharu mwy ar ryddid pobl a bod angen rhoi ystyriaeth i effaith cyfyngiadau ar addysg plant ac iechyd meddwl pobl.