Arddangosfa angylion i gofio'r rhai fu farw o Covid-19
- Cyhoeddwyd
![Addurniadau San Silyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/79FC/production/_121282213_addurniadau.jpg)
Mae'r arddangosfa yn agor ddydd Sul ac ar agor tan y flwyddyn newydd
Mae arddangosfa arbennig o angylion wedi agor mewn eglwys yn Wrecsam i gofio am y miloedd sydd wedi marw o Covid-19.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae caredigion Eglwys y Plwyf San Silyn wedi cynhyrchu 6,000 o angylion o bob lliw a llun.
Mae'r angylion wedi cael eu hongian mewn rhwydi sy'n hongian i fyny mewn tŵr a chorff yr eglwys a byddan nhw yna tan fis Ionawr.
![y Parchedig James Tout](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C81C/production/_121282215_parchedigjamestout.jpg)
Dywedodd y Parchedig James Tout bod angylion yn cynrychioli gobaith a golau
Dywedodd y Parchedig James Tout wrth Cymru Fyw: "Mae pob angel yn cynrychioli rhywun sydd wedi marw gyda Covid 19. Mae wedi bod yn ymdrech massive.
"Mae wedi cymryd oriau ac oriau i bob aelod o'r Eglwys a phobl o'r gymuned sydd ddim yn rhan o'n heglwys ni i greu'r angylion 'ma ac i roi nhw i fyny i gofio am y bobl sydd wedi marw dros yr 18 mis dwetha' 'ma.
"Mae angylion, ar gyfer Cristnogion, wedi cynrychioli gobaith a golau dros y canrifoedd mawr."
![Eglwys San Silyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A272/production/_121268514_mediaitem121268513.jpg)
Mae'r angylion wedi'u creu o ddeunyddiau newydd ac sydd wedi'u hailgylchu
![Eglwys San Silyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F092/production/_121268516_mediaitem121268515.jpg)
Mae'r angylion yn cynrychioli'r holl bobl sydd wedi marw o Covid-19
Cafodd yr arddangosfa ei hysbrydoli gan angylion cerddorol o'r 15fed Ganrif sydd wedi eu cerfio mewn i do pren yr eglwys.
Mae pob angel yn cynrychioli bywyd a gafodd ei golli ac maen nhw wedi cael eu creu gyda phapur sydd naill ai'n newydd neu sydd wedi ei ailgylchu, gwlân a deunyddiau eraill.
Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Eglwys San Silyn tan 6 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2021