Ymchwiliad i lygredd Afon Llynfi yn 'wan'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu beirniadu ar ôl i'w hymchwiliad i ddigwyddiad o lygredd ble lladdwyd 45,000 o bysgod ddod i ben heb unrhyw weithrediad pellach.
Dywedodd y corff eu bod nhw wedi'u brawychu gan y difrod yn yr Afon Llynfi, ger Pontithel, Powys, ond "doedd dim posibilrwydd realistig o gael euogfarn".
Fe ysgrifennodd un o gynghorwyr sir Powys ar Twitter nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru "yn addas i weithredu" a dywedodd un arall bod eu hymateb yn "wan".
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddan nhw'n ystyried ailagor yr achos pe byddai tystiolaeth newydd yn ymddangos.
Mae Afon Llynfi, llednant i Afon Gwy, yn llifo trwy ardal gadwraeth arbennig.
Ar Twitter, dywedodd cynghorydd y Blaid Werdd Emily Durrant ei bod yn "siomedig" am y penderfyniad, gan ychwanegu nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru'n "addas i weithredu" os nad ydyn nhw'n gallu delio gyda digwyddiad fel hwn.
Mewn neges arall dywedodd cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig William Powell, cyn-Aelod Seneddol, mai "oriau tywyllaf hanes" Cyfoeth Naturiol Cymru oedd y rhain a bod pobl wedi aros "yn amyneddgar am gyfiawnder".
Dywedodd Ann Weedy, rheolwr gweithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydyn ni'n siomedig iawn nad ydyn ni wedi gallu cael cyfiawnder yn erbyn y rheiny sy'n gyfrifol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020