Plannu 600 o goed mewn tref i ddelio â newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Plannu

Bydd tua 600 o goed yn cael eu plannu o amgylch tref Caerffili fel rhan o ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Y gobaith yw y bydd y prosiect Tiny Forest yn helpu i leihau llygredd aer, lleihau llifogydd a gwella bioamrywiaeth.

Bydd plant ysgol lleol yn helpu i blannu'r goedwig yn ystod yr wythnos cyn diwrnod agored ddydd Sadwrn.

Dywedodd Cadeirydd Gweithredu Hinsawdd Caerffili, Marianne Longstaff: "Bydd yn cymryd 30 gwaith yn fwy o garbon na choedwig a blannwyd yn draddodiadol.

"Bydd yn cymryd llawer o ddŵr felly rydyn ni'n gobeithio y bydd y llifogydd rydyn ni wedi'u cael ym Mharc Morgan Jones yn ddiweddar yn cael eu lliniaru.

"Dylai leihau llygredd aer a llygredd sŵn o'r ffordd leol a rhan fawr o'r prosiect hwn yw addysgu ysgolion lleol a'r gymuned leol," ychwanegodd.

Bydd amrywiaeth o dderw, ffawydd, llwyni a choed ffrwytho yn cael eu plannu mewn ardal ym Mharc Morgan Jones.

Bydd dull arbennig o blannu coed ar gyfer y 28 rhywogaeth frodorol o goed yn caniatáu iddyn nhw dyfu'n gyflymach ac yn ddwysach na choedwig a blannwyd yn draddodiadol.

Bydd grwpiau o blant ysgol yn helpu i blannu'r coed yn ystod yr wythnos a fydd yn arwain at ddiwrnod o weithredu gan Climate Action Caerphilly.

Ddydd Sadwrn bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu mynd i'r safle i blannu coeden.