Cwmni yn prynu safle hen bafiliwn pier Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Pafiliwn pier LlandudnoFfynhonnell y llun, Creu
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r cynlluniau gafodd eu cyflwyno yn 2016 i ddatblygu'r tir wrth y pier a'r Grand Hotel

Mae safle pafiliwn pier Llandudno, sy'n segur ers dros chwarter canrif, wedi cael ei werthu.

Cyhoeddodd y cwmni sy'n berchen ar y pier ei hun, Tir Prince Leisure Group, eu bod wedi prynu'r pafiliwn Fictoraidd a gafodd ei ddinistrio gan dân yn 1994.

Cafodd cynlluniau eu cyflwyno a'u cymeradwyo gan Gyngor Conwy yn 2016 i ddatblygu fflatiau a bwyty ar y safle.

Ond fe gafodd y cais ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru yn 2018 am ragor o graffu.

Cyhoeddodd perchnogion y pafiliwn yn ddiweddar fwriad i geisio ei werthu mewn ocsiwn.

O ganlyniad i benderfyniad cwmni Tir Prince Leisure Group, bydd y pier a'r pafiliwn yn dod o dan yr un berchnogaeth am y tro cyntaf mewn dros 40 o flynyddoedd.

Tân 1994
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr hen bafiliwn ei ddifrodi gan dân yn 1994

Gan fod y Ceidwadwyr wedi cynnal sawl cynhadledd yn y pafiliwn, mae ymwelwyr â'r safle dros y blynyddoedd yn cynnwys Winston Churchill a Margaret Thatcher.

Mae yna gred taw yn ystod digwyddiad yn yr hen bafiliwn yn 1948 y penderfynodd hithau fentro i'r byd gwleidyddol.

Dywed y cwmni mewn datganiad eu bod "yn falch o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau pryniant tir Pafiliwn Pier Llandudno" yn dilyn trafodaethau a "sawl cyfarfod gwerth chweil" yn y misoedd diwethaf gyda'r perchnogion presennol.

"O ystyried pa mor agos yw i'r pier a'r ffaith eu bod, tan 1980, dan yr un berchnogaeth ac yn rhan o'r un darn o dir, roedd ei brynu yn benderfyniad hawdd," ychwanega'r datganiad.

Hen bileri haearn yr hen bafiliwn
Disgrifiad o’r llun,

Hen bileri haearn oedd yn rhan o'r pafiliwn gwreiddiol

'Y gwaith caled yn dechrau rŵan'

Mae'r cwmni'n gobeithio y bydd prynu'r safle'n "helpu sicrhau dyfodol hirdymor Pier Llandudno a safle Llandudno fel gem yng nghoron sector twristiaeth gogledd Cymru trwy wella ar yr hyn sydd ar gynnig a sicrhau bod sawl cenhedlaeth yn gallu parhau i'w fwynhau yn y dyfodol".

Ychwanegodd y cwmni: "Mewn sawl ffordd, mae'r gwaith caled yn dechrau rŵan ond rydym yn hyderus y gallwn ni wneud rhywbeth gwirioneddol gwerth chweil gyda'r safle yma a bydd rhagor o gyhoeddiadau maes o law."

Adam Williams yw perchennog Tir Prince Leisure Group, sydd hefyd yn rhedeg trac rasio ceffylau Tir Prince a sawl arcêd yn Nhowyn, ger Y Rhyl.

Pynciau cysylltiedig