'Dim tywod ar y traeth yn Llandudno am sbel eto'

  • Cyhoeddwyd
Llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Mae cryn ddadlau ers blynyddoedd dros y cerrig crynion ar Draeth y Gogledd Llandudno

Mae prif weithredwr Cyngor Conwy wedi rhybuddio cynghorwyr na fydd modd adfer tywod ar un o draethau Llandudno "unrhyw bryd yn y dyfodol agos" wedi i aelodau'r cabinet gymeradwyo cynllun newydd i gryfhau morgloddiau'r dref.

Daeth sylw Iwan Davies wedi i aelodau'r cabinet groesawu cynlluniau a fyddai'n costio £24m, yn ôl ymgynghorwyr preifat, i ailosod tywod ar Draeth y Gogledd.

Fe fyddai'n golygu symud cerrig crynion o'r traeth ac ailosod grwynau - morgloddiau hir pren - i atal tonnau rhag achosi llifogydd

Mae cryn wrthwynebiad wedi bod ers gosod y cerrig ac fe gafodd y cynigion diweddaraf eu cyflwyno i un o bwyllgorau craffu'r cyngor yr wythnos ddiwethaf.

Un awgrym oedd cadw'r cerrig a chodi morglawdd uwch, ond fe gafodd yr ail gynnig gefnogaeth mwyafrif sylweddol, sef adfer y tywod a gosod grwynau pren.

Cafodd y cynnig hwnnw ei gadarnhau ddydd Mawrth gan aelodau cabinet y cyngor, serch rhybudd Mr Davies i bwyllo.

'Cryn dipyn o waith a pherswâd i ddod'

"Rwy'n fodlon iawn derbyn a deall awydd aelodau i hyn ddigwydd ond mae'n rhaid i ni gofio nad ydi'r arian ar gyfer y cynllun yma wedi cael ei sicrhau," dywedodd.

"Fyddwn ni ddim yn rhoi tywod ar y traeth unrhyw bryd yn y dyfodol agos oherwydd mae angen i ni ddatblygu'r cynllun, a hefyd i ddod o hyd i swm sylweddol o arian.

"Mae angen cryn dipyn o waith a pherswâd cyn i ni allu rhoi tywod ar draeth a fydd, rwy'n cytuno, yn wych i Landudno."

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon y byddai'r cynllun yn hwb i sector twristiaeth Llandudno.

"Yn ystod yr holl ymgynghoriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd, dydw i ddim yn meddwl bod yna'n un person wedi gwrthwynebu hyn mewn gwirionedd.

"Dwi'n edrych ymlaen at allu eistedd ar y traeth yna gyda fy mhlant a meddwl 'wnaethon ni helpu gwneud i hyn ddigwydd'."

Bydd angen i'r cyngor baratoi cynlluniau manwl ac achos busnes fel rhan o gais i Lywodraeth Cymru am gyfran o'r £150m sydd ar gael dan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Mae yna amcangyfrif y byddai'n rhaid i'r cyngor dalu tua £3.6m at gost gwireddu'r cynllun, ac mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys mesurau i wella Traeth Penmorfa'r dref.

Pynciau cysylltiedig