Newid hinsawdd: Cyfrifoldeb ar bawb?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pobl Blaenau Ffestiniog yn gweithredu dros newid hinsawdd

Gyda sylw'r byd ar gynhadledd newid hinsawdd COP26, ry'n ni eisoes wedi clywed am y pwysau fydd ar arweinwyr rhyngwladol i wneud penderfyniadau.

Fe allai'r penderfyniadau hyn fod yn allweddol yn yr her i arafu neu atal effeithiau newid hinsawdd.

Ond ydy'r frwydr weithiau yn gallu cael ei gweld fel problem mor gymhleth, nad oes modd i unigolion wneud gwahaniaeth?

Cymru Fyw sydd wedi bod yn siarad gyda phobl sy'n dadlau bod modd i bawb wneud gwahaniaeth.

Raphaelle Fieldhouse, Gardd Goedwig Gymunedol Naturewise, Aberteifi

Fi'n helpu pobl i blannu coed trwy gyfrwng y Gymraeg. Ma' hwn yma i'r gymuned - nid jyst coed sydd yma. Ma' popeth yn fwytadwy neu'n helpu'r amgylchedd.

Gyda'r hinsawdd a phopeth, dyw hi ddim yn synhwyrol i hedfan afalau a chillies o Dde Affrica i Gymru tra bo nhw'n tyfu yn arbennig o dda yma, felly mae'n well tyfu nhw fan hyn. Felly os chi'n byw fan hyn, dyle'r bwyd gael ei dyfu yma.

Ni'n agos i'r dref. Gall bobl gerdded yma, ac mae'n bwysig fod y gymuned yn tyfu bwyd eu hunain.

S'dim tir 'da phawb, s'dim gerddi 'da phawb felly ma' nhw'n gallu tyfu nhw fan hyn. Os nad ydy bobl yn gwybod sut i dyfu pethau, ma' nhw'n gallu dod fan hyn a dysgu.

Os ydy hyn yn gwneud i bobl feddwl - wel, ma' hynna'n beth positif. Ac os yw pobl Aberteifi ddim yn gorfod prynu afalau o ben draw'r byd - wel, ma' hwnna yn gwneud gwahaniaeth.

Kasey Perks, Salon Gwallt Create, Caerdydd

Ry'n ni'n ailgylchu hyd at 95% o'n gwastraff - gwallt yw'r rhan fwyaf.

Ar hyn o bryd mae llawer o'n cleientiaid ni eisiau newid mawr felly mae 'na lawer o wallt yn cael ei dorri.

Mae'r gwallt wedyn yn cael ei ddefnyddio fel 'bŵm gwallt' sydd fel pâr o deits ry'ch chi'n ei stwffio gyda gwallt ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn llynnoedd a moroedd er mwyn clirio olew a chemegion sydd wedi gollwng.

Mae gwallt yn dal llawer o saim tan iddo gael ei olchi felly mae'n gallu cael ei ddefnyddio drosodd a throsodd.

Pan agoron ni am y tro cyntaf fis Tachwedd diwethaf roedden ni eisiau bod yn gynaliadwy ac fe all gwallt os yw'n cael ei waredu, ryddhau llawer o nwyon tŷ gwydr. Yn aml mae'n cyrraedd y bin sbwriel a thip sbwriel ac yn creu nwyon tŷ gwydr sy'n niweidiol.

Mae cynaladwyedd yn bwysig i Dani [cyd-berchennog y salon] a fi, a pan oedden ni'n gwybod ein bod ni am agor ein salon ein hunain, dyna oedd ar flaenau ein meddyliau o ran cynllun busnes felly fe wnaethon ni lawer o ymchwil.

Mae'r cleientiaid yn meddwl ei fod e'n dda iawn. Dwi'n meddwl bod llawer yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd ac mae bod yn gynaliadwy yn bwysig iddyn nhw, felly mae gwybod ar ddiwedd y gwasanaeth nad yw eu gwallt yn mynd i dip sbwriel, ond ei fod yn gwneud lles, ac yn helpu mewn ffordd bositif, yn rhywbeth maen nhw'n ei werthfawrogi.

Arfon Hughes, Cwmni Nod Glas, Dinas Mawddwy

Clirio rhododendron oedd y peth mwyaf 'nathon ni yn ystod y cyfnod cynta' a diogelu'r safle o unrhyw goed oedd yn beryg ac angen eu rheoli'n well.

O dorri'r rhododendron mae'r coed naturiol wedyn yn dod i fyny gan bod 'na fwy o oleuni. Mae rhododendron yn tueddu i ladd pethau a mae'r bioamrywiaeth yn cael ei effeithio.

Rŵan mae 'na fwy o adar a phlanhigion a 'da ni wedi sylwi bod y planhigion cynhenid oedd yn arfer bod yn dechrau blodeuo a ffynnu unwaith eto.

Wrth gynyddu y nifer o blanhigion ac ati a bioamrywiaeth, 'da ni'n cynyddu y cyfleon i dynnu'r carbon yn ôl i'r tir ac ati fel bod o ddim yn cael ei yrru allan i'r awyr.

Grant Peisley, Datblygiadau Egni Gwledig, prosiect GwyrddNi

'Da ni wedi bod yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog ar newid hinsawdd am flynyddoedd.

Ond mae'r arbrawf efo GwyrddNi wedi cychwyn tua dau fis yn ôl ac yn y mis dwetha' 'da ni wedi cychwyn rhoi posters i fyny a siarad efo siopau a pawb am be sy'n mynd ymlaen, a mae'r ymateb wedi bod yn wych.

Pan ti'n cerdded i lawr y stryd ym Mlaenau Ffestiniog, ti'n sbïo yn ffenest siopau, a gei di weld posteri yn ffenestri'r siop yn dangos y camau maen nhw 'di bod yn cymeryd.

Yn y caffi ma' nhw'n sôn am y cynnyrch lleol, mae'n sôn amdan stopio defnyddio plastig, mae'n sôn amdan defnyddio pethau compostable.

Mae pobl mor positif. Maen nhw eisiau gwneud pethau dros newid yn yr hinsawdd, maen nhw eisiau gwybod beth maen nhw'n gallu gwneud. Mae' nhw eisiau gwybod beth mae pobl eraill yn ei wneud.

A 'da ni'n dallt, pan 'da ni gyd yn dod at ein gilydd, 'da ni'n lot cryfach a mae lot mwy yn digwydd. A dyna 'da ni'n weld - pethau 'da ni'n meddwl sy'n fach, mae lot yn dod at ei gilydd a creu rhywbeth lot fwy.