Tri'n pledio'n ddieuog i lofruddio ym Mharc Bute

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins mewn ward gofal dwys ar 5 Awst - 16 diwrnod wedi'r ymosodiad arno yn y parc

Mae dau ddyn a merch yn eu harddegau wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth dyn yn dilyn ymosodiad arno mewn parc yng Nghaerdydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, yn yr ysbyty 16 diwrnod wedi'r ymosodiad ym Mharc Bute ar 20 Gorffennaf.

Ymddangosodd y tri diffynnydd - Jason Edwards, 25 oed o ardal Glan-yr-Afon, Lee William Strickland, 36 oed a heb gyfeiriad parhaol, a merch 17 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol - yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.

Plediodd y tri yn ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth, dynladdiad, lladrata ac ymosod gan achosi niwed corfforol.

Clywodd y llys bod adroddiadau seiciatryddol a seicolegol yn cael eu paratoi yn achos dau o'r diffynyddion.

Bydd yna wrandawiad pellach ar 10 Rhagfyr ac mae disgwyl i'r achos llawn ddechrau ar 17 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig