Taulupe Faletau i adael Caerfaddon ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taulupe Faletau wedi bod yn chwarae i Gaerfaddon ers pum mlynedd

Mae Caerfaddon wedi cadarnhau y bydd Taulupe Faletau yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor i ymuno ag un o ranbarthau Cymru.

Does dim cytundeb ffurfiol hyd yn hyn ond mae disgwyl y bydd wythwr Cymru a'r Llewod yn ymuno â Chaerdydd.

Ymunodd â Chaerfaddon yn 2016 gan chwarae i'r clwb 64 o weithiau.

Dywed y clwb ei fod yn gadael er mwyn canolbwyntio ar ymgyrch Cwpan y Byd 2023 a rhoi ei hun yn y sefyllfa orau i chwarae dros ei wlad.

'Mynd yn ôl adref'

Nid oedd y chwaraewr 30 oed ar gael ddydd Sadwrn pan gafodd Cymru eu trechu 16-54 gan Seland Newydd yng ngêm brawf gyntaf cyfres yr hydref.

Roedd y gêm tu allan i ffenestr ryngwladol swyddogol World Rugby, oedd yn golygu nad oedd chwaraewyr sy'n cynrychioli clybiau yn Lloegr ar gael.

Byddai dychwelyd i Gymru'n osgoi sefyllfa debyg, ond dyw Faletau heb allu chwarae i Gaerfaddon o gwbl ers dechrau'r tymor oherwydd anaf i'w ffêr.

Dywedodd Faletau y bydd "yn colli'r tîm a phawb yn y clwb" ond bod ei fryd ar ddychwelyd i Gymru yn y gobaith o barhau i chwarae mewn gemau rhyngwladol.

"Mae'n teimlo fod yr amser cywir i mi, a fy nheulu, i fynd yn ôl adref," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig