Cyfres yr hydref 2021: Cymru 16-54 Seland Newydd
- Cyhoeddwyd

Seren y gêm oedd Beauden Barret, a oedd yn dathlu ei 100fed cap
Fe sgoriodd Seland Newydd saith cais i roi buddugoliaeth gyfforddus i'r Crysau Duon yn erbyn Cymru yn Stadiwm Principality.
Daeth dau o'r ceisiau gan seren y gêm Beauden Barrett ar achlysur ei 100fed cap.
TJ Perenara, Will Jordan, Dalton Papalii, Sevu Reece ac Anton Lienert-Brown sgoriodd y gweddill.
Fe giciodd Jordie Barrett 19 pwynt ychwanegol i'r Crysau Duon - gyda'r sgôr terfynol yn 16-54 i'r ymwelwyr.
Sgoriodd y canolwr Johnny Williams gais gysur i Gymru yn yr ail hanner.
Mae'n golygu fod rhediad diguro Seland Newydd yn erbyn y Cymry - sy'n ymestyn yn ôl 68 mlynedd - yn parhau.

Johnny Williams sgoriodd yr unig gais i Gymru
Chwaraeodd Gareth Anscombe ei gêm gyntaf i Gymru ers 2019, gyda'r maswr 30 oed - a gafodd ei eni a'i fagu yn Seland Newydd - wedi creu argraff i'r Gweilch ers dod yn ôl o anaf i'w ben-glin.
Dechreuodd blaenasgellwr y Dreigiau, Taine Basham, 21, ei gêm gyntaf dros ei wlad, ac roedd ei berfformiad yn profi ei fod yn llawn haeddu'r fraint.
Roedd y gêm ddydd Sadwrn y tu allan i ffenestr ryngwladol swyddogol World Rugby, a olygai nad oedd y chwaraewyr sy'n cynrychioli clybiau yn Lloegr ar gael.
Roedd y Crysau Duon wedi enwi tîm cryf iawn, gyda'r gwybodusion yn darogan y byddai colli o lai nag 20 pwynt yn ganlyniad da i Gymru.
Daeth cais cyntaf y gêm i Beauden Barrett o fewn pedwar munud ar ôl i bas gan Anscombe gael ei rhyng-gipio gan faswr y Crysau Duon.
Ymatebodd Cymru i'r ergyd gyntaf yma gyda rhediad gwych gan Josh Adams lawr y cae oedd yn edrych fel petai'n gallu arwain at gais, ond wrth iddo basio'r bêl cafodd ei tharo lawr gan Barrett, yn arwain at gic gosb i Gymru a thri phwynt ar y sgorfwrdd.

Bu'n rhaid i'r capten Alun Wyn Jones adael y cae 20 munud mewn
Ond aeth pethau'n anoddach i Gymru gyda'r capten Alun Wyn Jones yn gorfod gadael y cae yn gynnar ar ei 149fed cap gydag anaf i'w ysgwydd.
Fe barhaodd Seland Newydd i ymosod yn ffyrnig. Llwyddodd Ardie Savea i dorri trwy ryc ac yna'n pasio'r bêl i Perenara, a sgoriodd ail gais Seland Newydd.
Cyn hanner amser cafodd Ross Moriarty ei anafu gan dacl wael gan Nepo Laulala, a dderbyniodd garden felen.
Llwyddodd Anscombe i droi'r gic gosb mewn i dri phwynt i Gymru, gyda'r sgôr yn 18-6 ar yr egwyl.

Bu'n rhaid i Ross Moriarty adael y cae yn dilyn tacl gan Nepo Laulala
Ar ddechrau'r ail hanner sgoriodd Will Jordan trydedd gais i Seland Newydd.
Ond 61 munud mewn llwyddodd Cymru o'r diwedd i sgorio'u hunig gais o'r gêm ar ôl creu sgarmes a wnaeth arwain at Rhys Priestland - oedd wedi dod ymlaen yn lle Anscombe - yn cicio'r bêl ymlaen tuag at y llinell a Williams yn tirio.
Ni pharhaodd y dathliadau am hir, gyda Seland Newydd yn sgorio pedwar cais arall cyn diwedd y gêm.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Seland Newydd yn dychwelyd i'r safle cyntaf yn y byd.
Bydd Cymru'n wynebu pencampwyr y byd De Affrica ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021