Côr Meibion Trelawnyd yn serennu ar y sgrin fawr

  • Cyhoeddwyd
Men Who SingFfynhonnell y llun, S4C/BFI
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffilm yn bortread o Gôr Meibion Trelawnyd wrth i'r côr frwydro i geisio denu aelodau newydd

Cyfeillgarwch a chymuned fydd rhai o brif themâu ffilm ddogfen am gôr meibion o Sir y Fflint fydd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Prydain dros yr wythnosau nesaf.

Mae 'Men Who Sing' yn bortread o Gôr Meibion Trelawnyd wrth i'w haelodau wynebu heriau personol ac wrth i'r côr frwydro i geisio denu aelodau newydd.

Mae hefyd yn bwrw golwg ar berthynas cynhyrchydd y ffilm, Dylan Williams sy'n byw yn Sweden, a'i dad, Ednyfed, yng Nghymru.

Fe ddychwelodd Dylan adref i Ddyserth pan ffoniodd ei dad i roi gwybod iddo ei fod yn gwerthu cartref y teulu a bod "sgip y tu allan" ar gyfer cynnwys y tŷ.

'Naeth o fynd syth trwydda i'

"Roedd gweld fy nhad yn cerdded o amgylch cartref gwag yn rhywbeth cryf iawn, so nes i ddechre ffilmio," meddai.

"Wedyn y noson gyntaf oeddwn i 'nôl, nes i fynd i fyny efo fo i bractis y côr.

"Mae 'nhad i wedi bod yn aelod o'r côr ers bron i 70 mlynedd a nes i fynd i fewn a gweld yr holl ddynion 'ma o'n i'n 'nabod o fy mhlentyndod, sydd bellach yn eu 70au ac 80au.

"'Naethon nhw sefyll a dechrau canu ac 'naeth o fynd syth trwydda i. O'n i'n teimlo bod gen i rywbeth o'n i isio edrych mewn iddo fo mewn ffilm."

Ffynhonnell y llun, S4C/BFI
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 'Men Who Sing' yn cael ei dangos mewn 25 o sinemâu ledled Prydain o 5 Tachwedd

Cafodd fersiwn Gymraeg 'Y Côr' ei darlledu gyntaf ar S4C yn 2019.

Bydd fersiwn Saesneg yn cael ei dangos mewn 25 o sinemâu ledled Prydain o 5 Tachwedd.

Mae'r teitl Saesneg 'Men Who Sing' yn adlais o ffilm ddogfen arall gan y cynhyrchydd, 'Men Who Swim' (2010), yn adrodd hanes Dylan fel aelod o grŵp nofio synchronised swimming yn Sweden.

Fe arweiniodd honno at ffilm ffuglen 'Swimming With Men' (2018), gyda'r actor Rob Brydon.

'O'n i ym myd fy nhad'

Yn ôl Dylan, mae'r ffilm ddiweddaraf yn trafod syniadau fel perthyn a chyfeillgarwch wrth i grŵp o ddynion hŷn geisio denu rhai iau i gynnal eu traddodiad.

"Falle 'naeth y ffilm ddechre fel peth melancholic, ond wrth i mi ddod i fewn i fyd fy nhad a gweld sut roedd y dynion yma o'i gwmpas yn siarad efo'i gilydd yn edrych ar ôl ei gilydd, 'naeth o ddechrau dod yn ffilm gynnes iawn.

"O'n i'n dechre gweld y byd oedd yn edrych ar ôl fy nhad i, a'r byd oedd o wedi bod ynddo fo erioed.

"Pan o'n i'n tyfu fyny a'n nhad yn mynd bob nos Fawrth i'r côr, oedd 'na ddim byd mwy boring i mi yn y byd.

"Ond yn sydyn reit o'n i ym myd fy nhad ac yn dod yn agosach ato fo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ednyfed Williams wedi bod yn aelod o Gôr Meibion Trelawnyd ers 67 mlynedd bellach

Tad Dylan, Ednyfed Williams, 91, ydy aelod hynaf Côr Meibion Trelawnyd. Fe ymunodd yn 24 oed.

"'Dio'm bwys mewn côr meibion be' 'dech chi, be' di'ch job chi, pa mor gyfoethog 'dech chi, pa mor ddeallus ydych chi," meddai.

"Hwyrach bo' chi'n eistedd drws nesaf i ffermwr, neu gyfreithiwr. Yr unig beth sy'n bwysig ydy eich bod chi'n llais, yn gallu canu ac aros mewn tiwn.

"Ond ar ôl i chi orffen canu, mae'r gwmnïaeth yn dechrau, y tynnu coes, y jocian, a dwi wedi cael myrdd o hynny.

"Mae'r teimlad o fod yn dîm, yn enwedig pan 'dech chi'n cystadlu, mae o'n tynnu chi at eich gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr arweinydd Ann Atkinson ei bod "wedi bod yn gyfnod mor anodd i gorau"

Mae'r arweinydd Ann Atkinson wedi arwain sawl côr, gan gynnwys Côr Meibion Froncysyllte pan ddaethon nhw i enwogrwydd gyda label Universal.

Mae hi'n gobeithio y bydd 'Men Who Sing' yn helpu i ddenu aelodau newydd a pharhau'r traddodiad. 

"Mae hi wedi bod yn gyfnod mor anodd i gorau," meddai.

"Dwi'm yn gwybod sut mae corau eraill yn ailgydio ynddi. Dwi'n meddwl bod Trelawnyd yn gwneud reit dda ac mae gennym ni, gobeithio, ddwy gyngerdd cyn 'Dolig.

"Mae'n bwysig bo' ni ddim yn colli'r traddodiad achos mae peryg ar ôl rhywbeth fel pandemig bo' nhw ddim yn mynd i fod mor awyddus i fynd allan.

"Ond mae 'na groeso ar nos Fawrth am saith o'r gloch!"

Pynciau cysylltiedig