Y Cymro ddaeth yn seren y byd nofio yn Sweden

  • Cyhoeddwyd
dylan williams

Mae Dylan Williams yn wreiddiol o ogledd Cymru. Ond pan benderfynodd symud i Sgandinafia 17 mlynedd yn ôl newidiodd ei fyd yn llwyr ac fe wnaeth enw iddo'i hun mewn maes hollol annisgwyl.

Mae ei gampau yn y pwll nofio, ac mewn nofio cydamserol - neu 'synchronised swimming' - yn benodol, bellach yn destun ffilm gyda'r Cymro Rob Brydon yn serennu.

Dyma stori Dylan yn ei eiriau'i hun:

Nes i symud i fyw gyda fy nghariad ar y pryd, Anna, i Sweden yn 2001. O'n i wedi bod yn gweithio yn y maes teledu yng Nghymru a phan symudon ni roedd Anna'n disgwyl ein plentyn cyntaf.

Fe wnaethon ni symud yng nghanol y gaeaf, a'r unig waith o'n i'n gallu ei gael oedd gweithio yn y tip, ac yna o'n i'n gweithio fel cymhorthydd i berson gydag anawsterau.

Yn y flwyddyn gyntaf yn Sweden o'n i'n eitha depressed, ddim yn gwybod beth oedd fy nyfodol i am fod ac yn teimlo'r pwysau o fod yn dad.

Yna fe wnaeth 'na ddyn oedd yn 'nabod fy ngwraig gysylltu efo fi - roedd o am greu grŵp neu glwb newydd a meddwl fyddai'n ffordd dda i fi ddod i 'nabod pobl.

Nes i ddweud 'ie' cyn i mi wybod beth oedd o - o'n i mor desperate i ffeindio ffrindiau newydd.

Pan dd'wedodd o eu bod nhw am greu'r tîm synchronised swimming cyntaf i ddynion yn y byd nes i feddwl "grêt, ffantastig, 'nawn ni drio hi".

Disgrifiad o’r llun,

Yn y top ar yr ochr chwith, Dylan yn cymryd ei le i greu patrwm seren

Roedd 'na 11 o'na ni yn y tîm, a phawb tua'r un oed a'r un cyfnod o fywyd - lot o dadau newydd - roedd 'na deimlad o dîm.

Roedden ni'n cael dipyn o sylw yn y wasg, ac roedd pawb yn meddwl bod o'n ffyni.

Ond o'n i eisiau bod o ddifri am y peth a bod mor dda ag oedden ni'n gallu. Roedden ni'n gwneud hyn am gwpl o flynyddoedd ac fe ddaethon ni ar draws cystadleuaeth fawr oedd yn digwydd ym Milan.

Mae 'na reolau eithaf llym i gystadlu yn synchronised swimming. 'Da chi ddim yn cael sefyll ar waelod y pwll, na chwaith yn cael mwy na chwech mewn tîm - roedd 'na 12 yn ein tîm ni.

Felly roedd 'na ddosbarth arbennig i ni a roedden ni'n cystadlu yn erbyn tîm o Prague oedd yn hŷn ac yn dewach na ni - dwi'n meddwl mai gyrwyr bws oedden nhw - ac fe wnaethon ni eu curo nhw!

Roedd 'na dimau arbennig o dda, ac roedd y rhan fwyaf o'r timau wedi cystadlu yn y Gay Olympics.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dylan gyfarwyddo ffilm ddogfen am stori'r criw yn 2010 o'r enw 'Men Who Swim'

Roedd hi'n anodd cael rhywun i ariannu'r ffilm ddogfen wnes i am ein taith ni (Men Who Swim, 2010), ond fe wnaeth cwmni ARTE yn yr Almaen gamu mewn, ynghyd â'r BBC.

Roedd premiere y ffilm mewn gŵyl yn Washington DC ac fe gafodd ei ddangos mewn tua 70 o wyliau ffilm ar draws America, ac yna ei werthu i dros 80 o wledydd.

Nes i deithio lot yn America ac ar draws Ewrop yn trio hybu'r ffilm. Yn sydyn reit ges i gynhyrchwyr yn troi fyny o Los Angeles yn gofyn am hawliau i wneud ffilm o'n stori ni, a rhai o Ffrainc a Llundain.

Mwy ar Cylchgrawn:

Gwnaethon ni gynhyrchiad efo cwmni o Lundain ac o'n i'n executive producer ar y ffilm, yn cael golwg ar y sgriptiau ac ati.

Mae Rob Brydon yn chwarae rhan Erik Scott, sydd mewn ffordd wedi ei seilio arna i, neu falle wedi ei ysbrydoli gan fy stori, yn y ffilm newydd Swimming with Men. Mae rhannau o'r ffilm yn wir, ond wrth gwrs mae lot o'r stori hefyd wedi ei addasu.

Roeddwn i ac aelodau eraill y tîm gwreiddiol i gyd yn extras yn y ffilm. Es i lawr i Basildon lle roedden nhw'n ffilmio ac roedd o mor rhyfedd achos roedd y pwll a'r gwisgoedd ayyb i gyd wedi ei wneud i fod yn union fel oedd o yn Milan yn ystod y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media
Disgrifiad o’r llun,

Rob Brydon, yr actor o Faglan, sy'n chwarae rhan sydd wedi ei ysbrydoli gan Dylan

Fe wnaeth Men Who Swim sylfaenu fy ngyrfa fel gwnaethwr ffilm ddogfen i ddweud gwir, a dwi 'di mynd 'mlaen i wneud ffilmiau eraill. Dwi rŵan yn cynhyrchu rhaglen ddogfen am fiwsig efo Iggy Pop.

Dwi wedi dechrau ar ffilm ddogfen newydd o'r enw Men Who Sing. Mae'r ffilm yn dilyn fy nhad sydd wedi bod yn aelod o Gôr Meibion Trelawnyd ers 70 o flynyddoedd - mae o'n 88 bellach.

Mae'n debyg iawn i Men Who Swim mewn ffordd - thema ddoniol am grŵp o fois.