Ellis Jenkins yn ôl yn nhîm Cymru am y tro cyntaf ers 2018

  • Cyhoeddwyd
Ellis JenkinsFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ellis Jenkins allan am 26 mis yn dilyn yr anaf i'w ben-glin ar ei ymddangosiad diwethaf i Gymru

Bydd Ellis Jenkins yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers 2018 pan fydd y crysau cochion yn herio De Affrica ddydd Sadwrn.

Mae'r blaenasgellwr yn un o chwe newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Seland Newydd, gyda Rhys Carre a Will Rowlands hefyd yn ymuno â'r pac.

Jenkins, 28, oedd seren y gêm yn erbyn De Affrica wrth i Gymru eu trechu 20-11 ym mis Tachwedd 2018, cyn iddo gael anaf difrifol i'w ben-glin yn y munud olaf.

Bydd Dan Biggar, Louis Rees-Zammit a Nick Tompkins hefyd yn dechrau yn erbyn y Springboks ddydd Sadwrn, tra bod Jonathan Davies yn gapten yn absenoldeb Alun Wyn Jones.

Mae dau flaenwr ar y fainc allai ennill eu capiau cyntaf - y bachwr Bradley Roberts a'r prop WillGriff John.

Tîm Cymru: Johnny McNicholl; Louis Rees-Zammit, Jonathan Davies (c), Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Bradley Roberts, Wyn Jones, WillGriff John, Ben Carter, Seb Davies, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Liam Williams.

Pynciau cysylltiedig