Pwy sy'n talu am ffordd newydd Niwgwl wrth i lefel y môr godi?

  • Cyhoeddwyd
Niwgwl
Disgrifiad o’r llun,

Y darogan yw y bydd y ffordd bresennol wedi diflannu erbyn 2036

Wrth i uwchgynhadledd COP26 barhau yn Glasgow, mae rhai cymunedau yng Nghymru yn gorfod wynebu addasu dros y degawdau nesaf i effeithiau newid hinsawdd.

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae Niwgwl wedi cael ei tharo gan gyfres o stormydd pwerus, ac fe ddaeth hi'n amlwg yn 2014 na fyddai'n bosib dibynnu ar amddiffynfa naturiol o gerrig oedd yn gwarchod y ffordd fawr ger y môr.

Yn dilyn ymchwil gan arbenigwyr, mae Cyngor Sir Penfro wedi datgan y bydd rhan o ffordd yr A487 yn Niwgwl yn gorfod cael ei symud yn y dyfodol, wrth i lefel y môr godi ac wrth i stormydd danseilio ac erydu'r clawdd cerrig sydd wedi amddiffyn y pentref.

Y darogan yw y bydd y ffordd bresennol wedi diflannu erbyn 2036, a dywedodd un sy'n byw yn lleol wrth Newyddion S4C mai "caneri yn y pwll glo" yw'r pentref.

Mae'r cyngor eisoes wedi dewis llwybr newydd i'r heol yn dilyn proses ymgynghori, ond mae angen cymorth Llywodraeth Cymru i dalu am y gwaith o godi ffordd newydd ymhellach i fyny'r cwm.

Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi cyfrannu arian ar gyfer y cynllun ac y bydd yn ystyried unrhyw geisiadau pellach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd trwy Niwgwl yn cysylltu Hwlffordd a Thyddewi

Yn ôl y cyngor, yr amcangyfrif diweddaraf yw y bydd ffordd newydd yn costio o leiaf £19m.

Fe fydd y ffordd newydd 1.5 milltir o hyd yn cysylltu Penycwm gyda chylchfan newydd ger pentre'r Garn.

Yn wreiddiol, y bwriad oedd agor y ffordd newydd erbyn 2025.

Er i Lywodraeth Cymru gyfrannu dros £400,000 tuag at waith ymchwil i baratoi ar gyfer ffordd newydd, does yna ddim ymrwymiad eto i dalu am y gost o'i hadeiladu.

Ym mis Mehefin 2021 cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y byddai prosiectau i adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu hatal am y tro tan y bydd adolygiad yn cael ei gwblhau dros yr haf.

'Caneri yn y pwll glo yw Niwgwl'

Mae'r Parchedig William Owen yn byw ym mhentref Caerfarchell ym Mhenrhyn Dewi, ac mae'n dweud fod pobl yr ardal yn dibynnu ar y ffordd yn Niwgwl i gyrraedd tref Hwlffordd.

"Mae'n bwysig am ei bod hi'n cysylltu ni gyda Hwlffordd, a tua'r gogledd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae plant yn mynd i'r ysgol yn Hwlffordd. Mae'r gwasanaeth iechyd yn Hwlffordd a draw i Glangwili. Gallwch chi ddim gadael Tyddewi wedi ei ynysu.

"I fi, caneri yn y pwll glo yw Niwgwl.

"Mae yna blant yn y cylchoedd meithrin ar hyn o bryd sydd yn mynd i dyfu fyny yn ystod cyfnod mwyaf heriol dynoliaeth, gyda newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Parchedig William Owen fod pobl yn dibynnu ar y ffordd i gyrraedd Hwlffordd

Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Penfro, Cris Tomos, yn dweud bod yr awdurdod yn awyddus i glywed gan y llywodraeth y bydd yna sicrwydd i ariannu'r ffordd.

"Os bydde'r tymheredd yn codi yn gynt, a'r lefel o garbon deuocsid yn cynyddu yn gynt, yr effaith sydyn byddai gweld yr heol yma yn diflannu yn gynt, ac mae yna berygl i hynny ddigwydd," meddai.

"Dwi'n gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu yn gyflym i sicrhau bod y cyllid mewn lle."

'Ystyried unrhyw geisiadau pellach'

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhoi'r sicrwydd hynny ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym wedi cyfrannu arian ar gyfer y cynllun addasu arfordir Niwgwl dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae arian yn cael ei ddarparu'n flynyddol ac mi wnawn ni ystyried unrhyw geisiadau pellach.

"Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau manwl am y cynllun i'r awdurdod lleol."

Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn "ariannu cynlluniau i amddiffyn 45,000 o dai ychwanegol rhag llifogydd yn ystod tymor presennol y llywodraeth".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Cris Tomos yn awyddus i glywed y bydd yna sicrwydd i ariannu'r ffordd

Yn ôl y daearyddwr, Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth, mae yna gryn ansicrwydd ynglŷn â phryd y gwelwn ni effeithiau newid hinsawdd yn dechrau taro glannau Cymru.

"Y pryder sydd gen i efallai yw bod y newidiadau, y stormydd mawr a'r erydiad, hwyrach yn mynd i ddigwydd yn gynt nag ydym ni yn disgwyl, felly mi fuaswn i yn dweud bod angen mynd i'r afael a'r heriau yma yn fuan iawn," meddai.

'Problem i Gymru gyfan'

Mae cadeirydd Cyngor Cymuned Solfach, y Cynghorydd Josh Phillips, yn dweud ei bod hi'n "hollol hanfodol" bod yna arian yn dod o Gaerdydd i dalu am y cynllun.

"Mae angen gweithredu cyn gynted â bo modd. Dyw hon ddim yn broblem i Sir Benfro yn unig," meddai.

"Mae hon yn broblem i Gymru gyfan ac mae angen canfod atebion. Mae'r cynllun yma wedi cael ei glustnodi ers rhyw bum mlynedd a does yna ddim adeiladu wedi digwydd.

"Does yna ddim datblygiad wedi bod. Mae'n rhaid sicrhau bod yr arian yn cael ei ddarparu i dalu am hyn."