Marwolaeth Treorci: Merch fu farw yn 'addfwyn a distaw'
- Cyhoeddwyd
Mae mam i ferch fu farw yn dilyn digwyddiad mewn bwyty Chineaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi ei disgrifio fel person "addfwyn a distaw".
Dywedodd Meifang Xu fod Wenjing Lin yn "ferch dda - da yn yr ysgol ac yn helpu gyda'r busnes - hi oedd fy unig blentyn".
Bu'n rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn Chun Xu, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Wenjing yn nhŷ bwyta Blue Sky yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth eleni.
Mae Xu, 32, yn cyfaddef dynladdiad y ferch ysgol 16 oed, ond yn gwadu ei llofruddio.
'Rwyt ti mor greulon'
Clywodd y llys mewn datganiad ysgrifenedig fod Meifang Xu wedi mynd i lawr i seler y bwyty ar y diwrnod y cafodd corff ei merch ei ganfod, a gweld bod ei gŵr Yongquan Jiang yn straffaglu gyda Chun Xu, oedd yn dal cyllell.
Roedd gwaed dros y lle, meddai, gan gynnwys dros ei gŵr wedi iddo yntau gael ei drywanu gan Chun Xu.
Ar ôl ceisio ymdawelu Chun Xu, fe aeth Yongquan Jiang i fyny'r grisiau i'r siop a gweld ei ferch ar y llawr yn anymwybodol, a galw ar ei wraig i ddod i fyny.
Dywedodd Meifang Xu ei bod hi wedi sylwi ar farc ar wddf Wenjing Lin, a gweiddi at Chun Xu: "Rwyt ti mor greulon, ddim yn stopio nes dy fod ti wedi ei lladd hi'n filain fel hyn."
Fe wnaeth hi alw am gymorth i gario ei merch allan o'r bwyty a cheisio ei hadfer, ond yn aflwyddiannus.
Yn dilyn hynny fe ddychwelodd i'r bwyty ble daeth hi o hyd i Chun Xu gyda chlwyf mawr ar ei wddf. Dywedodd ei bod ofn, ac wedi ceisio cadw'r clwyf ar gau nes i barafeddygon ddod i helpu.
Anghydfod ariannol
Clywodd y llys nad oedd Meifang Xu yn perthyn i Chun Xu, ond ei bod yn ei 'nabod gan fod eu teuluoedd yn arfer bod yn gymdogion yn China.
Roedd y teuluoedd wedi bod mewn cyswllt ers i'r ddau ohonynt symud i Brydain, ond wedi ymbellhau ar ôl anghytuno dros brydles bwyty gwahanol.
Erbyn mis Medi 2020 roedd gan Chun Xu fusnes yn anfon arian yn ôl i China, ac fe wnaeth Meifang Xu roi £30,000 o arian parod iddo anfon yn ôl at ei theulu a ffrindiau.
Ond dim ond £16,000 wnaeth Chun Xu anfon yn syth, gydag ychydig o daliadau bychan wedi hynny.
Dywedodd Meifang Xu fod Chun Xu yn gamblo llawer, a bod ei fam wedi talu rhai o'i ddyledion, ond nad oedden nhw wedi ffraeo am arian er ei bod hi wedi bod yn mynd ar ei ôl i geisio cael y gweddill.
Ar 4 Mawrth, y diwrnod cyn i gorff Wenjing Lin gael ei ganfod, fe ddaeth Chun Xu draw at y teulu gan ddweud fod ganddo arian iddyn nhw.
Dywedodd Meifang Xu ei fod yn edrych yn flinedig, ond eu bod wedi cael swper a chymdeithasu gyda'i gilydd cyn mynd i'r gwely, a chael noson braf.
Y bore wedyn, pan gododd Meifang Xu, fe wnaeth hi ddod o hyd i'w gŵr a Chun Xu yn ymladd yn seler yr adeilad.
Tystiolaeth patholegydd
Yn gynharach fe glywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Wenjing Lin wedi marw o ganlyniad i "bwysau ar y gwddf".
Dywedodd y patholegydd Dr Stephen Leadbeatter ei fod wedi cael ei alw i'r digwyddiad ac wedi dod o hyd i Wenjing ar y palmant tu allan i'r bwyty, ond bod ymdrechion i'w hadfer yn ofer.
Ychwanegodd ei bod hi wedi marw rywbryd rhwng 06:50 a 12:50 y diwrnod hwnnw, ond nad oedd modd dweud beth oedd wedi achosi'n pwysau ar ei gwddf.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021