A fyddai Liam Williams wedi sgorio cais?
- Cyhoeddwyd
Dywed prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, ei fod yn ansicr a fyddai Liam Williams wedi sgorio cais yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn wrth i dresmaswr gamu ar gae Stadiwm y Principality.
Roedd y sgôr yn gyfartal 15-15 pan wnaeth rhywun o'r dorf redeg ar y cae wedi 63 munud o chwarae - fe gafodd y tresmaswr ei daclo gan stiwardiaid wrth i Liam Williams geisio sgorio.
De Affrica oedd yn fuddugol wedi iddyn nhw drechu Cymru o 23-18 mewn gêm llawn goliau cosb.
"Chi ddim am weld hynna mewn gêm," meddai Pivac.
"Roedd y cyfan yn hynod siomedig ond doedd dim y gallai swyddogion wneud am y peth."
Ychwanegodd nad oedd sicrwydd y byddai Williams yn sgorio wrth i dri o amddiffynwyr De Affrica fod yn ymyl ond mae'n amlwg bod Williams wedi gweld y tresmaswr yn cael ei atal wrth iddo golli meddiant o'r bêl.
Wrth gael ei holi am y mater dywedodd Wayne Pivac: "Dwi ddim yn gwybod a fydden ni wedi sgorio... ar y pryd roeddwn yn credu bant â ni.
"Roedd gennym fantais o gael un chwaraewr yn ychwanegol. Dwi ddim wedi cael cyfle hyd yma i siarad â chwaraewyr eraill. Efallai bod y digwyddiad wedi mynd â'i sylw ond doedd dim mwy y gallai swyddogion fod wedi ei wneud. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddelio â'r mater yn y ffordd wnaethon nhw."
Dywedodd capten De Affrica Siya Kolisi: "Fe welais i e yn y diwedd. Doedd dim byd ro'n ni'n gallu ei wneud. Fe wnaeth y ddau dîm ymateb i'r sefyllfa.
"Dwi'n meddwl bod staff y stadiwm wedi delio'n dda gyda'r hyn ddigwyddodd."
Roedd yna gryn anniddigrwydd ymhlith y dorf wrth i'r tresmaswr gael ei dywys oddi ar y cae ac fe ddywedodd rheolwr stadiwm Principality, Mark Williams: "Ry'n yn condemnio'r math yma o ymddygiad.
"Cafodd ei hebrwng yn syth o'r stadiwm ac yna ei drosglwyddo i Heddlu De Cymru."
Mae cais wedi cael ei roi i Heddlu De Cymru am sylw.
Yr wythnos diwethaf bu'n rhaid tywys dyn arall oddi ar y cae - roedd Daniel Jarvis wedi ymuno â thîm y Crysau Duon yn ystod yr anthemau ar ddechrau eu gêm yn erbyn Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021