Cyfres yr Hydref: Merched Cymru 23-5 Merched Japan

  • Cyhoeddwyd
Siwan Lillicrap yn sgorio cais i GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Lillicrap yn sgorio cais i Gymru

Cymru oedd yn fuddugol yn eu gêm gyntaf yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Japan ddydd Sul - eu buddugoliaeth gyntaf mewn dwy flynedd.

Daeth y cais cyntaf i Gymru ond munud a hanner mewn i'r gêm, gyda chapten y tîm Siwan Lillicrap yn cario'r bêl dros y llinell yn dilyn sgarmes lwyddiannus gan y crysau cochion.

Daeth cyfleoedd i Japan yn yr hanner cyntaf, lle bu'n rhaid i Jasmine Joyce - seren y gêm - gyflawni tacl a wnaeth arbed yr ymwelwyr rhag sgorio 14 munud mewn.

Yn dilyn cwpl o giciau cosb i Gymru roedd y sgôr yn 11-0 erbyn hanner amser.

Yn yr ail hanner sgoriodd Joyce ail gais i Gymru gydag ond 14 o'u chwaraewr ar y cae ar ôl i'r blaenasgellwr Georgia Evans gael carden felen am daro'r bêl ymlaen yn bwrpasol. Llwyddodd Snowsill i drosi'r cais yn gwneud y sgôr yn 18-0.

Sgoriodd Joyce cais arall i Gymru yn y deg munud olaf - diolch i ymdrechion gan y tîm cyfan. Torrodd Alicia Butchers y llinell yn creu bwlch i Joyce gymryd y bêl dros y llinell gais a'i thirio. Trosodd Snowsill y bêl unwaith eto, yn gwneud y sgôr yn 23-0.

Ond doedd y gêm ddim drosodd, gydag ymdrech mawr o Japan ar y diwedd yn arwain at y bachwr Seina Saito yn sgorio cais ychydig o funudau'n unig cyn diwedd y gêm, yn rhoi pum pwynt iddyn nhw.

Roedd yn berfformiad calonogol gan Gymru yn dilyn taith anodd dros y blynyddoedd diwethaf.

Pynciau cysylltiedig