Cytundebau rygbi proffesiynol i ferched Cymru am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd y capten Siwan Lillicrap fod y newyddion wedi bod yn hwb i'r garfan cyn gemau'r hydref

Bydd chwaraewyr benywaidd yn cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf erioed.

Erbyn diwedd y flwyddyn bydd 25 o ferched sy'n chwarae'n rhyngwladol yn cael cytundeb 12 mis - bydd 10 o'r cytundebau yn rhai proffesiynol a 15 yn gytundebau cynnal a fydd yn talu llai.

Yn ogystal bydd chwaraewyr yn cael ffioedd hyfforddi a thâl am chwarae mewn gemau. Bydd disgwyl i chwaraewyr gwrdd â safonau penodol.

Yn sgil canlyniadau siomedig yn gynharach eleni fe gafodd y garfan rywfaint o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cyhoeddiad yn golygu bod Cymru'n dilyn undebau gwledydd eraill fel Lloegr - a roddodd gytundebau proffesiynol i ferched am y tro cyntaf yn 2016.

Bellach, mae menywod Lloegr ar frig tabl detholion y byd.

Daw hefyd yn dilyn galwadau ers tro ar i Undeb Rygbi Cymru wneud mwy i gefnogi chwaraewyr benywaidd.

Daeth hynny i'r amlwg ar ôl y Gemau Olympaidd pan ddywedodd Jasmine Joyce y byddai'n rhaid iddi ddychwelyd i weithio, dolen allanol gan bod ei chefnogaeth ariannol wedi dod i ben.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Merched Cymru heb ennill gêm ers dwy flynedd

"Dyma'r cynllun gorau i'n paratoi at Gwpan Rygbi'r Byd flwyddyn nesaf," meddai capten Cymru, Siwan Lillicrap.

"Bydd e'n golygu bod rhai o'n chwaraewyr yn gallu bod yn athletwyr proffesiynol a bydd modd i rai gymryd cyfrifoldebau penodol o ran dadansoddi perfformiad.

"Bydd modd cael mwy o drefn ar hyfforddi a gwella o anafiadau - bydd hynny yn help i wella ein perfformiad fel grŵp."

Dadansoddiad gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Catrin Heledd:

"Dyma gam holl bwysig ymlaen i'r gamp yng Nghymru. Mae merched Cymru wedi bod yn galw am ddatblygiad o'r fath ers blynydde - rhywbeth fydd yn sicrhau eu bod nhw'n gallu dechrau cystadlu yn erbyn timau gorau hemisffer y gogledd fel Lloegr a Ffrainc.

"Fe fydd hi'n ddiddorol gweld pwy fydd yn gallu derbyn y cytundebau, ac yn amlwg fe fydd rhai o fewn y garfan yn colli mas, ond wrth edrych ymlaen i Gwpan y Byd y flwyddyn nesa' y gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau bod Cymru yn fwy cystadleuol.

"I rywun fel asgellwraig Cymru, Jaz Joyce (sy'n un o chwaraewyr gorau'r byd) fe ddylai hyn olygu ei bod hi'n gallu parhau i ddatblygu a gwella heb orfod poeni am gydbwyso gwaith a rygbi.

"Dyma obeithio bod heddiw wir yn garreg filltir holl bwysig i dîm rygbi merched Cymru."

'Symud ymlaen'

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: "Ry'n ni wedi'n hymrwymo i sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer merched yr orau yn y byd ac mae cyhoeddiad heddiw yn gam i'r cyfeiriad hwnnw.

"Mae'r chwaraewyr wedi bod â rhan allweddol yn y broses ac ry'n ni'n teimlo mai dyma'r ffordd orau i symud ymlaen yn rhyngwladol yn y tymor byr a hir.

"Yn y cyfamser mae'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr yn paratoi at dair gêm rhyngwladol yr hydref ac yna bydd cytundebau yn cael eu rhoi i chwaraewyr sy'n debygol o fod y rhai mwyaf cystadleuol yng Nghwpan Rygbi'r Byd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cytundebau yn golygu y bydd hi'n bosib i'r tîm ymarfer mwy yn ystod yr wythnos

Dywedodd y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham: "Ry'n ni wir yn credu y bydd hyn yn 'neud gwahaniaeth o ran pa mor gystadleuol y gallwn ni fod yng ngemau Cwpan Rygbi'r Byd.

"Bydd modd hyfforddi bedair gwaith yr wythnos - ar hyn o bryd ry'n ni'n ymarfer ar benwythnosau ac unwaith yr wythnos.

"Bydd modd datblygu cynlluniau perfformiad i unigolion er mwyn iddynt gyrraedd a rheoli eu potensial."

Bydd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn penodi staff newydd a fydd yn canolbwyntio ar berfformiad, ffordd o fyw a seicoleg a bydd arian yn cael ei neilltuo i dalu am raglenni penodol er mwyn codi'r safon.

Dywedodd Prif Weithredwr URC, Steve Phillips, ei fod yn cydnabod nad rhoi cytundeb yw'r ateb hudol i lwyddiant rygbi merched Cymru ond "eu bod yn rhan allweddol o strategaeth uchelgeisiol yr undeb i godi'r safon".