Gyrru pobl o'u cartrefi yn dilyn tân ym Mlaengwynfi

  • Cyhoeddwyd
tan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau tân eu galw i'r digwyddiad ar Heol Jersey tua 21:30 nos Sul, 7 Tachwedd

Mae nifer o bobl wedi cael eu gyrru o'u tai yn dilyn tân yng Nghastell-nedd Port Talbot a ddechreuodd nos Sul, 7 Tachwedd.

Cafodd criwiau tân eu galw i'r digwyddiad mewn adeilad ar Heol Jersey, Blaengwynfi, tua 21:30.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod preswylwyr wedi eu gyrru o sawl aelwyd rhwng Stryd Beatrice a Park Lane, tra bod Heol Jersey wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad.

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw un ar goll nac unrhyw un wedi eu hanafu.

Pynciau cysylltiedig