Lansio ymgyrch i ddileu ysmygu yng Nghymru erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
Person yn ysmyguFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Llun i geisio creu Cymru 'ddi-fwg' erbyn 2030, ble fyddai llai na 5% o'r boblogaeth yn ysmygu.

Mae tua 14% o Gymry yn ysmygu, yn ôl y Llywodraeth.

Bydd ymgynghoriad i gasglu barn pobl ar sut i gyrraedd y targed newydd ar agor tan mis Ionawr 2022.

Mae hyn yn rhan o strategaeth hir-dymor y Llywodraeth i leihau ar y nifer o Gymry sydd yn ysmygu.

Gwneud ysmygu yn 'anghyffredin'

Er bod camau wedi eu cymryd yn barod i dorri'r nifer hyn, y gobaith yw creu Cymru lle mae ysmygu yn beth anghyffredin, meddai Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle.

Cymru oedd gwlad gyntaf y DU i wahardd ysmygu ar dir ysbytai, ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus ym mis Mawrth.

"Mae ysmygu'n parhau i fod yn brif achos marwolaethau cyn pryd yma yng Nghymru ac yn un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd," meddai'r Dirprwy Weinidog.

Cafodd tua 5,600 o farwolaethau ymhlith pobl dros 35 oed eu priodoli i ysmygu yn 2018, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton.

'Pwysig ofnadwy'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Lun, dywedodd Dr Olwen Williams fod lleihau ar y nifer sydd yn ysmygu yn hollbwysig i ddyfodol iechyd Cymru.

"Mae Covid wedi dangos fod pobl sy'n ysmygu yn cael eu heffeithio llawer mwy na phobl sydd ddim," meddai Dr Williams, sy'n Is-Lywydd Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon.

Dywedodd hi fod torri'r gyfran o Gymry sy'n ysmygu i 5% yn gam mawr iawn, ac y byddai'n allweddol i sicrhau nad yw'r genhedlaeth nesaf yn ysmygu er mwyn cyrraedd y targed.

Mae'n rhaid sicrhau fod plant ddim yn gweld pobl yn ysmygu, meddai Dr Williams, ac yn ei ystyried yn beth "negatif iawn".

Cafodd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus ei wahardd yn 2007, pan oedd 24% o Gymry yn ysmygu.

Erbyn 2017, roedd y nifer hyn wedi gostwng i 19% a dywedodd elusen asthma fod llai o achosion brys yn ymwneud â'r cyflwr yn cael eu hadrodd.

Cafodd ysmygu mewn ceir â phlant ei wahardd yn 2015 yng Nghymru ac yn Lloegr.

Pynciau cysylltiedig