Gwahardd ysmygu: Llai o achosion asthma brys medd elusen
- Cyhoeddwyd
Mae Asthma UK yn dweud bod lleihad yn nifer yr achosion brys yn ymwneud â'r afiechyd yng Nghymru ers i'r gwaharddiad ysmygu ddod i rym 10 mlynedd yn ôl.
Er bod meddyginiaethau wedi gwella yn y cyfnod yma, mae'r elusen yn dweud bod y gwaharddiad hefyd wedi bod yn ffactor pwysig.
Rhwng 2006-07 a 2015-16 bu gostyngiad o dros 25% yn nifer yr achosion yng Nghymru, ac ymhlith plant roedd gostyngiad o dros 30% yn yr achosion.
Dywedodd elusen ASH Cymru bod y neges ar ysmygu wedi newid dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
'Pobl yn meddwl am effeithiau'
Daeth y gwaharddiad ysmygu mewn llefydd cyhoeddus i rym yn 2007. Bwriad Llywodraeth Cymru pan wnaethon nhw gyflwyno'r ddeddf oedd amddiffyn pobl rhag effaith anadlu mwg ail-law.
"Cyn y gwaharddiad roedd e dal yn teimlo fel peth naturiol i wneud, ysmygu o amgylch plant," meddai Abe Sampson o elusen ASH Cymru.
"Ond mae'r neges yna wedi newid dros y 10 mlynedd diwethaf, a nawr mae pobl yn dechrau meddwl am effeithiau fel asthma, ac yn dechrau gweld y cysylltiad rhwng salwch fel 'na a'r mwg ail law."
Mae Nia Griffith wedi bod yn dioddef o asthma ers iddi fod yn bedair oed.
Mae'n dweud bod y gwaharddiad ysmygu wedi cael effaith mawr ar ei bywyd.
"Dwi'n teimlo yn lot brafiach yn mynd allan. Mae mynd allan am bryd o fwyd neu fynd am ddiod yn brofiad lot brafiach," meddai.
"Os dwi'n anghofio fy asthma inhaler dwi ddim yn gorfod poeni bod unrhyw beth yn mynd i neud i fi gael pwl gwael, a bod fi methu anadlu ac wedyn mynd i'r ysbyty neu rywbeth fel 'na."
Ond mae eraill yn amau faint o wahaniaeth mae'r gwaharddiad wedi'i wneud mewn gwirionedd i'r rheiny oedd yn ysmygu.
Wrth i'r gwaharddiad ddod i rym yn 2007, fe siaradodd BBC Cymru ag Owain Llŷr o Gaernarfon. Dywedodd bryd hynny bod ysmygu "yn rhan hanfodol" o gymdeithasu gyda ffrindiau.
Dydy o ddim wedi'i argyhoeddi bod pethau wedi newid llawer.
"I ddeud y gwir, dwi ddim yn siŵr os ydy o wedi newid arferion ysmygu pobl fel y cyfryw," meddai Owain Llŷr.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn dal i smocio, ond eu bod nhw'n gorfod mynd tu allan i wneud hynny rŵan a'u bod nhw i ryw raddau wedi cael eu gelyniaethu."
Ers 2007, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant. Ond ym mlwyddyn gynta'r polisi, dim ond un ddirwy gafodd ei rhoi.