Achub dyn fu'n sownd mewn ogof ers dydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn ei gludo o'r safle mewn ambiwlans 4x4 y timau achub
Mae dyn wedi ei achub o ogof ym Mannau Brycheiniog ar ôl bod yn sownd ers dydd Sadwrn.
Mae cannoedd o achubwyr wedi bod yn gweithio i gludo'r dyn i'r wyneb o ogofâu Ffynnon Ddu ger Ystradgynlais.
Dywedodd achubwyr bod y dyn wedi ei anafu, ond nad yw'r anafiadau'n peryglu ei fywyd.
Er bod y dyn sydd wedi ei achub yn ogofäwr profiadol, mae timau achub wedi dweud ei fod yn "ffodus" i fod yn fyw ar ôl disgyn dan ddaear.

Roedd y timau achub yn gweithio mewn sifftiau i symud y dyn o'r ogof
Ychwanegodd y tîm achub fod y dyn yn ei 40au canol, a'i fod mewn "hwyliau da".
Cafodd ei gludo o'r safle mewn ambiwlans 4x4 y timau achub, ac mae disgwyl iddo gael ei gymryd i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Dywedodd Gary Evans, fu'n rhan o'r ymgyrch i achub y dyn, ei fod yn "gwneud yn rhyfeddol o dda o ystyried pa mor hir mae e wedi bod yn yr ogof, wedi bod ar y stretcher".
"Mae'n gwneud yn dda iawn. Ry'n ni wrth ein boddau oherwydd roedd e'n ymgyrch anodd.
"Roedd cymaint o dimau gwahanol yn rhan ohono - nifer o asiantaethau gwahanol - ac mae hi wedi mynd mor dda yn gweithio gyda'n gilydd.
"Mae hynny'n destun balchder mawr i ni gyd."

Dywedodd y gwasanaethau brys fod dros 250 o bobl wedi bod yn rhan o'r ymgyrch
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan ogofäwr arall am tua 14:30 ddydd Sadwrn.
Bu o leiaf wyth o dimau achub o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn cynorthwyo'r ymdrech i ddod â'r gŵr i'r wyneb.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y gwasanaethau brys brynhawn Llun fod dros 250 o bobl wedi bod yn rhan o'r cyrch.
Dyma'r ymgyrch hiraf erioed gan dimau de Cymru i achub person o ogof - 41 awr oedd yr hiraf cyn y digwyddiad yma.

Trwy'r fynedfa hon - un o dair i ogofâu Ffynnon Ddu - aeth yr ogofäwr cyn cael ei anafu dan ddaear
Mae ogofeydd Ffynnon Ddu, sydd wedi eu dynodi'n warchodfa natur, ymhlith yr hiraf yn y DU, a dyma hefyd yr ogofeydd dyfnaf yn y DU â bron 300m o ddyfnder.
Maen nhw'n boblogaidd ymhlith ogofwyr ond ar safle sy'n cael ei argymell ar gyfer unigolion profiadol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021