Ysgol yn bygwth 'dim cinio' am ddyledion o fwy na 1c
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion mewn ysgol yng Ngwynedd wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael cinio ysgol os oes ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyledion.
Mewn llythyr at rieni, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes eu bod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd diffyg yng nghyllideb cinio'r ysgol.
Mae'r cogydd yn yr ysgol wedi cael cyfarwyddyd "i beidio rhoi bwyd i unrhyw blentyn" oni bai bod y dyledion wedi'u clirio.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y dylai unrhyw un sy'n "cael trafferthion" talu am ginio ysgol i gysylltu gyda nhw.
'Awgrym y cyngor'
Dywedodd y pennaeth, Neil Foden, yn y llythyr ei fod yn "synnu'n fawr o weld ar ddiwedd yr hanner tymor diwethaf bod diffyg annisgwyl yn ein cyllideb cinio ysgol".
"Daeth i'r amlwg wedi golwg fanylach fod hyn oherwydd bod llond llaw o ddisgyblion wedi pentyrru dyledion oedd yn dod i gyfanswm o dros £1,800."
Mewn datganiad diweddarach, dywedodd Mr Foden bod gan naw o rieni ddyledion o £50, a bod gan dri ddyledion o dros £100.
Dywedodd bod negeseuon testun a llythyron wedi eu hanfon, ond heb ateb "yn y mwyafrif o achosion".
Dywedodd Darren Owen, 43, sy'n dad i bump o blant, ei fod yn "hollol gandryll" pan ddangosodd ei wraig y llythyr iddo.
"Dwi'n dallt y dylai pobl dalu eu dyledion, ond ar yr un pryd mae pobl yn ei chael hi'n anodd," meddai Mr Owen, o Benygroes, sydd â dau o blant yn yr ysgol.
"Roedd arnan ni 36c pan gawson ni'r llythyr. Siawns fod nhw'n gwybod pwy ydy'r rhieni. Allen nhw ddim cynnig help?"
'Rhaid gwneud rhywbeth'
Yn ôl y llythyr, bydd unrhyw un â dyledion dros 1c yn cael cais i dalu eu swm yn llawn erbyn 19 Tachwedd, neu ni fydd y cogydd yn cael cynnig cinio iddynt ar ôl hynny.
Bydd unrhyw ddyledion dros £10 yn cael eu trosglwyddo i'r cyngor, a bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu gyda'r rhieni.
"Mae'n ddrwg gen i fod yn rhaid i ni gymryd y camau yma, ond mae maint y ddyled yn golygu bod yn rhaid gwneud rhywbeth," meddai Mr Foden.
Dywedodd y pennaeth ei fod wedi codi'r mater gyda'r cyngor, ac mai nhw oedd wedi awgrymu cymryd y camau yma.
Ychwanegodd nad oedd wedi derbyn cwyn gan unrhyw riant, a bod ysgolion eraill yn y gogledd eisoes wedi cymryd camau tebyg.
"Mae'r colledion yn gorfod dod o gyllideb yr ysgol," esboniodd. "Dydy o ddim yn ddyled sy'n diflannu."
'Dim polisi cyffredinol'
Dywedodd Cyngor Gwynedd nad yw'n "gweithredu polisi cyffredinol o wrthod cinio i ddisgyblion, a byddwn yn trafod y mater hwn yn uniongyrchol gyda'r ysgol".
"Byddem yn annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy'n cael anhawster talu am ginio ysgol eu plentyn i gysylltu â'r Adran Addysg neu'r ysgol yn uniongyrchol," meddai llefarydd.
"Mae'n bosib y bydd gan eu plentyn hawl i ginio ysgol am ddim.
"Mae system talu ar-lein wedi ei gyflwyno sy'n gofyn i rieni sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu am brydau ysgol eu plentyn.
"Mae'r system yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd i rieni na allant, am ba reswm bynnag, dalu am gyfnod byr. Anfonir negeseuon atgoffa yn ôl yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddyledion sylweddol yn cronni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019