Sut mae pasys Covid wedi gweithio dramor?
- Cyhoeddwyd
Mae angen dangos pàs Covid mewn mwy o lefydd yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.
Fe fydd bob person dros 18 oed yn gorfod dangos pàs os ydyn nhw am fynd i weld cyngerdd, ffilm mewn sinema neu ddrama mewn theatr.
Mae pobl sydd yn mynychu clybiau nos neu ddigwyddiadau torfol eisoes yn gorfod dangos eu pasys cyn medru cael mynediad i'r lleoliadau hynny.
Mae'r newid yn dilyn systemau tebyg mewn gwledydd eraill yn Ewrop, felly sut mae rhai o Gymry'r gwledydd yna wedi ymdopi gyda'r pasys, a pha effaith maen nhw wedi ei gael?
Menna Michoudis, Skiathos, Groeg
Yn wreiddiol o Ruthun, ond wedi byw yn Skiathos ers 15 mlynedd, mae Menna Michoudis yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth.
"Ar hyn o bryd, os de chi wedi cael y vaccination fedrwch chi fynd i mewn i bob man, os oes gennych chi'ch papur i ddangos eich bod chi wedi cael y vaccination a rhyw fath o ID.
"De chi angen hyn ar gyfer mynd i fewn i fanciau, siopau, llefydd torri gwallt. Yr unig lefydd de chi ddim angen nhw ydy yn yr archfarchnadoedd, pharmacy, a mynd ar y bws.
"Os de chi heb gael vaccination de chi'n gorfod gwneud rapid test neu PCR yn y 48 awr cynt i chi gael medru mynd i fewn i'r llefydd yma.
"Mae'n dipyn anoddach i'r rhai sy ddim 'di ga'l o.
"Y rhan gwaetha ydy'r gost, achos os de chi'n meddwl bod test ond yn dal am 48 awr - ma' hyn yn meddwl bo rhywun digon posib angen dau neu dri test yr wythnos, sydd yn dipyn o gost iddyn nhw. Mae o €40-€60 yr wythnos jest ar gyfer hynny.
"Mae'n dipyn o drawiad i'r busnesau bach lleol achos mae'n nhw'n gorfod cadw trac ar bethe, checio cyn i chi fynd i fewn bo chi efo'r papurau iawn a hyn a'r llall, ac mewn ffordd 'da chi'n llechio cwsmeriaid allan os 'dyn nhw heb gael y test - felly ar ôl dwy flynedd andros o anodd mae'n edrych fel 'di pethau ddim yn mynd i fod yn llawer hawddach eto iddyn nhw."
Menna Price, Ravenna, Yr Eidal
Pàs gwyrdd yw enw'r system yn Yr Eidal.
Yn ôl Menna Price sy'n byw yn Ravenna, mae'n "cael ei ddefnyddio ym mhob gwaith - mewn ysgolion, ffatrïoedd, unrhyw sefyllfa broffesiynol, a hefyd i fynd i weld ffilmiau, mynd i'r theatr neu unrhyw stadiwm chwaraeon".
Ond mae'n ddadleuol i rai. "Mae yna deimladau cryf iawn ynglŷn â'r ffaith bod rhaid i ni ddangos Green Pass hyd yn oed i fynd i'r gwaith," meddai.
"Felly mae 'na garfanau mawr o bobl, hyd yn oed carfanau falle gwleidyddol neu grefyddol, yn teimlo'n gryf yn erbyn y Green Pass.
"Ac wedyn mae'n rhaid i ni fod yn sensitif wrth gwrs i deimladau pobl, ynglŷn â'u preifatrwydd nhw a'r wybodaeth bersonol mae'r Green Pass yn gofyn amdano."
Pascale Jones, Sète, Ffrainc
Perchennog bwyty yn ne Ffrainc yw Pascale Jones. Ers mis Awst, mae'n rhaid dangos pàs iechyd yn Ffrainc i fynd i mewn i lefydd, gan gynnwys canolfannau meddygol.
"Roedd yn rhaid i ni ofyn am y pasys Covid", meddai.
"Mae'n cymryd amser oherwydd mae'n rhaid i bawb ddangos eu pàs, ond yn gyffredinol mae pobl wedi ymateb yn eitha' da iddyn nhw, ac mae pobl heb rai wedi sylweddoli nad ydyn nhw'n cael mynediad hebddyn nhw."
Yn ystod y mis diwethaf, dywed Pascale Jones ei bod wedi sylwi fod pobl "yn llai gofalus am reoli pasys" ond bod yna gyhoeddiad wedi nodi y bydd y system yn aros am ychydig yn hirach.
"Mae'n rhywbeth rydym ni'n dod i arfer ag e', ac unwaith ry'n ni wedi dod i arfer, mae'n dod yn arfer arall," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021