'Ro'n i bron â chau'r siop achos camdriniaeth siopwyr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Paula Lesley sy'n berchen ar siop y Bocs Teganau ym Mhorthmadog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Paula Lesley yn ystyried cau ei siop ym Mhorthmadog oherwydd camdriniaeth gan gwsmeriaid

"Mae llawer o bobl yn gwrthod gwisgo masgiau mewn siopau ac yn bod yn gas ofnadwy," medd Paula Lesley sy'n berchen ar siop deganau ym Mhorthmadog.

Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru erfyn ar siopwyr a manwerthwyr i wisgo gorchudd wyneb wrth siopa dan do.

"Mae cyfrifoldeb ar bawb i atal Covid rhag lledaenu ac i gadw'n siopau ar agor," medd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

Ond dywed Ms Lesley bod nifer o staff siopau yn cael eu cam-drin gan gwsmeriaid.

"Roedd mis Awst yn ddifrifol," meddai.

"Ar un adeg ro'n i bron cau'r siop - roeddan ni'n cael camdriniaeth gan gwsmeriaid. Roedd [pobl yn cwyno] yn rhoi lot fawr o bwysa' ar fi fy hun a staff.

"Roedd pobl yn bod yn gas ofnadwy ac yn deud 'Da chi ddim yn sylweddoli bod y rheolau wedi newid?' A ninnau'n ateb 'dim ond yn Lloegr ma' nhw wedi newid' a dyna lle mae'r peth i gyd yn torri lawr.

"Dwi'n meddwl i fod yn onest nad oes digon o bwysleisio wedi bod rhwng rheolau Cymru a rhai Lloegr."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae gwisgo mwgwd yn ofyn cyfreithiol yng Nghymru heblaw bod rhywun wedi ei eithrio, ac "mae'n hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu," medd Gweinidog yr Economi.

Ar hyn o bryd mae lefelau'r haint yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran arall o'r DU, a dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau i ddod â'r feirws o dan reolaeth os nad yw'r sefyllfa yn gwella.

"Ond dydy lot o bobl ddim isio gwisgo mwgwd a dyna fo," ychwanegodd Paula Lesley, perchennog siop Y Bocs Teganau.

"Dydyn nhw ddim yn licio bo' chi yn deud wrthyn nhw bo' nhw'n gorfod 'neud o. Dim ni sy'n 'neud y rheolau.

"Be' sy'n digwydd hefyd ydy nad ydy pob siop yn mynnu fod pobl yn gwisgo mygydau.

"Mae rhai yn exempt ond, yn aml, os ydy un person o'r teulu wedi ei eithrio mae gweddill y teulu yn d'eud bod hwytha hefyd.

"Ond elli di ddim gofyn iddyn nhw pam eu bod nhw wedi'u heithrio - ti ddim fod i 'neud hynna."

Dywed Mr Gething bod staff manwerthu ledled Cymru wedi bod yn arwyr di-glod drwy gydol y pandemig, gan weithio'n galed i fwydo'r wlad.

"Mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i Gadw Cymru'n Ddiogel," meddai.

"Er ein bod i gyd bellach wedi cael y rhyddid i allu mwynhau bywyd, rhaid i ni barhau i fod yn ofalus wrth siopa a chadw ein hunain, siopwyr eraill, gan gynnwys pobl sy'n glinigol fregus a staff siopau, yn ddiogel.

"Er mai brechlynnau yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y feirws a'n bod yn dal i annog pawb i weithio gartref os medrant, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

"Ac mae'n bwysig cofio nad dewis mo siopa - yn wahanol i daith i'r theatr neu'r dafarn.

"Mae llawer o bobl clinigol fregus wedi dweud wrtha' i eu bod yn teimlo'n anniogel wrth siopa gan nad yw pobl yn gwisgo gorchudd wyneb. Rwy'n gofyn i bawb fod yn ystyriol o'r bobl hyn a gwneud y peth iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd ychydig oedd ar y strydoedd wedi i gyfyngiadau gael eu cyflwyno

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i osgoi cyflwyno rhagor o gyfyngiadau, yn enwedig yn y sector manwerthu, wrth i'r Nadolig nesáu.

"Mae staff siopau yn peryglu eu hiechyd eu hunain drwy'r amser drwy ofalu am y cyhoedd bob dydd a rhaid i ni beidio ag anghofio hynny," ychwanegodd.

"Daliwch ati i ddangos y parch a'r cwrteisi y mae gweithwyr siopau'n eu haeddu wrth iddyn nhw weithio'n ddiflino i helpu i sicrhau bod siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig mor ddymunol, diogel a di-straen ag y gall fod ar adeg brysur iawn.

"Mae fy neges i siopwyr yn syml - byddwch saff, byddwch garedig."

'Rhaid i siopwyr wneud eu rhan'

Dywedodd Sara Jones, Consortiwm Manwerthwyr Cymru: "Mae manwerthwyr a gweithwyr siopau yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o galed a chyfrifol i gadw cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel a chyda digonedd o fwyd gydol y pandemig.

"Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, wedi buddsoddi'n sylweddol i wneud eu siopau mor ddiogel ag y gallant fod, ac yn parhau i fynd y tu hwnt i'r mesurau sylfaenol.

"Fodd bynnag, mae dyletswydd ar bob siopwr i wneud ei ran, drwy ddilyn rheolau diogelwch siopau a gorchmynion y llywodraeth ar wisgo gorchudd wyneb, a bod yn ystyriol a dangos parch i siopwyr eraill a staff siopau."