Ymateb cymysg wedi penwythnos cyntaf lefel rhybudd sero
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i symud i lefel rhybudd sero, ond mae pryderon hefyd y bydd hynny'n arwain at rai yn gwrthod dilyn y rheolau sy'n parhau mewn grym.
"See you later, you fascist", oedd geiriau un cwsmer wrth i Cymru Fyw ffonio siop Awen Meirion yn Y Bala dros y penwythnos, a hynny wedi i'r rheolwr ofyn iddo wisgo mwgwd.
"Yn ffodus dydyn ni ddim yn cael sylwadau o'r fath yn gyson a dwi'n hynod o falch bod rhaid parhau i wisgo mygydau mewn siopau yng Nghymru," medd Gwyn Sion Ifan.
Daw ei sylwadau wedi i'r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid Cymru gael eu llacio ddydd Sadwrn.
'Gallu achosi problem'
"I ddweud y gwir mi wnes i ac eraill ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn gofyn iddi sicrhau bod gwisgo mygydau yn parhau yng Nghymru," meddai Mr Ifan.
"Mae sylwadau fel ag a glywoch chi rŵan yn cynhyrfu rhywun - mi oedd y cwsmer yn fodlon defnyddio'r deunydd diheintio dwylo ond mi aeth yn flin pan 'wnes i ofyn iddo wisgo mwgwd.
"Mae nifer o gwsmeriaid cyson y siop a busnesau eraill yma yn Y Bala yn falch iawn bod pobl yn parhau i orfod gwisgo mwgwd - ma'n gneud pawb i deimlo'n saffach yn tydi?
"Wrth gwrs dyw hi ddim yn orfodol i bobl wisgo mwgwd yn Lloegr - a dyna sy'n gallu achosi problem."
Ar strydoedd Caerdydd roedd mwy o fownsars i'w gweld o flaen y tafarndai a'r clybiau, gydag un yn gweiddi "ry'n wedi cael ein rhyddid yn ôl".
"Ry'n wedi bod ar agor ers tro," medd bownsar clwb y Revolution ger y castell, "ond mae heddiw yn ddiwrnod hollol wahanol.
"Tan heddiw roedd yn rhaid i bobl fod yn eistedd ger fwrdd, ac yn y blaen, ond dyma ddechrau newydd - dwi'n disgwyl i'r lle fod yn orlawn heno ac ydyn ry'n ni'n llawn cyffro."
'Braf cael ein rhyddid yn ôl'
Gerllaw, a hithau'n gynnar brynhawn Sadwrn, roedd pobl eisoes yn ciwio i fynd mewn i dafarn y Philharmonic.
"Mae'n braf cael ein rhyddid yn ôl a dechrau byw go iawn," meddai'r ferch tu allan a oedd yn croesawu ac yn gwirio cardiau adnabod y cwsmeriaid ieuengaf.
Yn hwyr nos Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ond mae rhai rheolau yn parhau ac fe rybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford "nad oes rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".
Un arall sy'n croesawu'r newid yw Rhys Davies, perchennog hostel Tŷ Glyndŵr yng Nghaernarfon.
Petai'r cyfyngiadau wedi parhau dywed nad yw'n rhagweld y gallai ei fusnes fod wedi para mwy na thri mis, ac mae'n ychwanegu fod pobl yn dyheu i aros yn yr hostel.
Ers dechrau'r pandemig mae wedi dioddef colledion o £300,000, ac ers iddo ailagor dim ond hanner y niferoedd arferol oedd yn gallu cysgu yno.
"Dwi'n cael rhyw 200 o enquiries bob diwrnod jest ar y funud - mae pobl isio aros. Ar y funud mae'n bwysig i ni wneud y mwyaf o arian a fedrwn ni cyn gynted â phosib," meddai.
'Noson arbennig'
Roedd yna gryn gyffro hefyd yng nghlwb nos Copa yng Nghaernarfon, a rhwng dau lawr yr adeilad roedd dros 1,000 o docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer nos Sadwrn.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y DJ Endaf Roberts, a oedd yn chwarae ar y llawer gwaelod bod y cyfan yn "brofiad cwbl arbennig".
"Dwi ddim wedi bod yn DJ mewn rhywbeth byw ers mis Mawrth 2020, ac ro'dd bod yn G'narfon nos Sadwrn yn brofiad cwbl cwbl arbennig," meddai.
"Mae'n neis bod back to normal - mae'r cyfan fel dechrau newydd i'r diwydiant mewn ffordd, ond mae'n rhaid bod yn saff a rhaid i unrhyw un sydd ag unrhyw symptomau Covid aros adref.
"Yn y cyfnod clo dwi wedi bod yn 'neud remixes o ganeuon Cymraeg o dan y label Bŵgi - ac ro'dd nos Sadwrn yn gyfle i drio nhw allan - roedd pawb i weld yn lyfio be oeddwn i wedi'i wneud.
"Ar ddiwedd y nos es i DJio ym Mangor - roedd hi'n noson ffantastig ac mae mor braf bod nôl."
Bellach mae cartrefi gofal yn cael penderfynu'n unigol pwy sy'n cael ymweld a phryd.
Dywedodd Lorraine Dutton, rheolwr Gofal Plas Garnedd ar Ynys Môn: "Be 'da ni wedi'i ddweud ydy cadw masgiau ar ond mi gewch chi hug a ballu - bydd angen rhoi stwff gwrth facteria ar ddwylo a bydd dal angen 'neud y lateral flow test bob visit a llenwi questionnaire."
'Rhaid i ni gyd fod yn ofalus'
Ychwanegodd y meddyg teulu Dr Llinos Roberts bod "gennym ni gyd gyfrifoldeb i fod yn synhwyrol gyda'r llacio 'ma".
"Rhaid cofio ei bod hi'n dal yn saffach i gyfarfod y tu allan na'r tu mewn," meddai.
"Rhaid cofio cael prawf os oes rhywun yn cael symptomau a hefyd gwisgo mygydau - mewn lleoliadau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, lleoliadau iechyd ac mewn siopau.
"Er bo' fi'n croesawu'r llacio, mae'n rhaid i ni gyd fod yn ofalus. Mae'n rhaid i ni gofio nad yw'r feirws wedi'n gadael a bod cyfrifoldeb arnon ni gyd i reoli'r feirws."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021