COP 26: Diweddglo siomedig neu bositif?
- Cyhoeddwyd
Daeth cynhadledd COP 26 i ben yn Glasgow ddydd Sadwrn yn dilyn pythefnos o drafodaethau rhwng gwledydd y byd am sut i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Rhedodd y gynhadledd dros amser, gyda'r gwledydd a fynychodd y digwyddiad yn parhau i ddadlau dros eiriad terfynol y cytundeb newid hinsawdd ar ddydd Sadwrn. Roedd y gynhadledd fod gorffen ddydd Gwener.
Yn y diwedd, fe gytunodd y gwledydd i ymrwymo i "leihau'r" defnydd o lo o amgylch y byd.
Ond mae'r cytundeb wedi derbyn beirniadaeth am beidio ymrwymo i "gael gwared yn llwyr" ar ddefnyddio glo, gan fynnu na fydd y cytundeb yn cwrdd â'r bwriad allweddol o atal tymheredd y byd rhag codi'n fwy na 1.5C erbyn diwedd y ganrif.
Dywedodd gwyddonwyr y byddai cadw'r tymheredd o dan 1.5C yn atal effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.
Buodd Gohebydd Arbennig BBC Radio Cymru Garry Owen yn sgwrsio gyda thri pherson am eu gobeithion a'u hofnau ar drothwy'r gynhadledd pythefnos yn ôl.
Felly wedi i'r gynhadledd ddod i ben, beth yw eu hargraffiadau? Aeth Garry nôl i'w cwrdd ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun.
'Dim digon wedi'i 'neud'
Yn ôl Thomas Firth sy'n diwtor gwyddoniaeth, mae'r cytundeb "yn cynnig rhywfaint o obaith" ond nid yw'n "y llwyddiant oedd pawb yn gobeithio amdano."
"Dyw e ddim yn ddigon. Mae gobeithion ar ôl Glasgow, ond mae rhaid i bawb gadw at eu haddewidion nawr," meddai.
Ychwanegodd Thomas ei fod yn teimlo nad oes digon wedi cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.
"Mae COP 26 yn gam ymlaen yn bendant ac mae pethau i ddod ac efallai bydd siawns arall.
"Ond a bod yn onest, er bod pawb yn deall y broblem does dim digon wedi'i 'neud.
"Mae dyletswydd arnom ni oherwydd ein hanes i ddangos ein bod yn barod i roi'r arian i helpu. Ond mae rhaid i ni dderbyn bo' ni wedi cyfrannu at newid hinsawdd."
Teimlodd Thomas y dylai gwleidyddion fod wedi bod yn fwy "trwm" ar wledydd fel India, sy'n dibynnu'n fawr ar lo a chwaraeodd rôl fawr mewn newid geiriad y cytundeb i "leihau" defnydd glo yn hytrach na "gwaredu'n llwyr" defnyddio glo.
"Rwy yn meddwl fod economi India mor ddibynnol ar lo mae'n anodd i ni ddweud wrthyn nhw bod rhaid iddyn nhw newid. Ond yn anffodus mae angen newid i helpu lot mawr o wledydd. Os na 'newn ni hynny ni yn gadel pawb arall i lawr," meddai.
"Rwy'n meddwl dyle rhywun fel [Alok] Sharma fod wedi bod yn fwy trwm arnyn nhw i ddweud bod rhaid newid achos ni yn achosi difrod a lladd byd natur ar y funed ac mae dyletswydd arnom ni i helpu i daclo hyn."
'Siomedig'
Fel Thomas, roedd Ena Lloyd - sydd wedi newid ei ffordd o fyw er mwyn trio bod yn fwy gwyrdd - hefyd yn teimlo'n "siomedig" wedi'r gynhadledd.
"Rwy yn siomedig iawn. Fe ges i sioc bod pobol yn siarad gyment am danwydd ffosil yn hytrach na be sy' yn digwydd yn y moroedd, achos doedd neb yn siarad am y moroedd.
"Roedd cyment o bobol yno o danwydd ffosil a dyna yw y sector sy' rhaid i ni dynnu mas ohono."
Wrth drafod pa mor debygol yw hi y bydd gwledydd y byd yn gallu cadw twymo byd eang o dan 1.5C, dywedodd Ena: "Licen ni feddwl bod 1.5 dal yn bosib ond fi yn ofni bod e ddim.
"Ma' pawb yn gwybod be' yw y ffigwr a be' sy' angen 'neud, ond symoi yn deall pam bod pobol ddim yn gneud e nawr.
"Maen nhw yn dishgwl mla'n deg neu ugen mlynedd. Pam ddim nawr?"
Ond mae Ena yn teimlo gall bobl gyffredin ddangos y ffordd.
"Un o'r pethe mwya' positif fi 'di gweld yw bod pobol yn dechre siarad am newid... a ma' pobol yn siarad am newid shwd maen nhw yn gneud pethe, er enghraifft golchi dillad yn llai aml, neu yn teithio llai.
"Mae pobol yn siarad am newid felly pam dyw Llywodraethau ddim yn gneud hynny hefyd?"
'Teimlo'n bositif'
Ond roedd Mari Arthur, o bartneriaeth cynaliadwyedd Afallen, yn teimlo'n fwy positif.
"Dwi moyn bod yn bositif," meddai.
"Ma' hwn yn un cam ar y daith ac mae rhaid canolbwyntio nawr ar y wleidyddiaeth achos ry'n ni yn rhan o'r cefndir lle ry'n ni wedi adeiladu diwydiant ar danwydd ffosil, felly mae'n rhaid i ni dalu i helpu'r gwledydd sy' yn stryglo nawr. Ni yn rhan o'r sefyllfa ni ynddo fe ac wedi bod yn rhan o adeiladu'r sefyllfa yma."
Hoffai Mari weld y llywodraeth yn gwneud mwy i annog pawb i newid eu harferion.
"Licen i weld y Llywodraeth yma yn gwneud pethe fel paneli solar ag ati yn y sector gyhoeddus. Gallwn ni 'neud lot nawr... wythnos hyn ac wythnos nesa' fydd yn adeiladu at y llun mawr."
Ychwanegodd fod hi'n teimlo'n bositif am y fath o drafodaethau mae pobl gyffredin wedi dechrau cael.
"Ma' lot mwy o bobol wedi siarad am newid hinsawdd nag o'r blaen. Mae pawb yn siarad am be' allan nhw 'neud neu be' ma' nhw eisiau'r Llywodraeth neu y sector gyhoeddus i 'neud.
"Mae hwnna'n mynd i helpu ni gyd i newid, a 'neud be sy' angen i ni 'neud.
"Fi wedi penderfynu teimlo yn fwy positif. Mae rhaid i ni feddwl y gallwn ni neud hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021