Enwi Jess Fishlock fel chwaraewr y flwyddyn yn America
- Cyhoeddwyd

Mae Fishlock wedi chwarae i dimau yn Ewrop, Awstralia ac America yn ystod ei gyrfa
Mae Jess Fishlock wedi'i henwi'n chwaraewr mwyaf gwerthfawr prif gynghrair merched America eleni.
Mae'r Gymraes, sy'n chwarae i OL Reign, wedi sgorio pum gôl mewn 23 gêm yng Nghynghrair Bêl-droed Cenedlaethol y Merched, neu'r NWSL.
Fishlock yw'r unig Gymraes, a'r ail chwaraewr o Brydain, i ennill y wobr ers lansio'r gynghrair yn 2013.
Y chwaraewr 34 oed yw'r pêl-droediwr cyntaf i ennill dros 100 o gapiau dros Gymru.
Cyrhaeddodd Reign, clwb o Seattle, y gemau ail gyfle ond cawsant eu trechu gan Washington Spirit yn y rownd gynderfynol yn gynharach yn y mis.
Dywedodd y prif hyfforddwr Laura Harvey mewn datganiad ar nwslsoccer.com: "Os siaradwch chi â'r rhan fwyaf o bobl o amgylch y gynghrair a gofyn i'r hyfforddwyr fynd ag un chwaraewr o'n tîm ni, byddai bob un yn dewis Jess."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2018