Gemau ail gyfle Cwpan y Byd: Beth yw gobeithion Cymru?
- Cyhoeddwyd
Nos Fawrth, Tachwedd 16 fe wnaeth tîm pêl-droed Cymru sicrhau gêm ail gyfle gartref yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond beth yw llwybr tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd y 2022 a pha mor fawr fydd y gamp? Iolo Cheung o BBC Cymru Fyw ac aelod ffyddlon o'r Wal Goch sy'n ein rhoi ni ar ben ffordd.
Wyth mis yn ôl fe ddechreuodd yr ymgyrch hon gyda Chymru'n colli i Wlad Belg o flaen torf o neb, gyda'r cyfyngiadau Covid yn golygu bod pawb yn sownd i'w soffas yn gwylio.
Allai'r olygfa ddim fod wedi bod yn fwy gwahanol nos Fawrth, gyda thorf lawn Stadiwm Dinas Caerdydd yn bloeddio'n groch wrth wylio'r crysau cochion yn cipio'r canlyniad oedd ei angen yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Doedden ni byth wir am ennill y grŵp yma, nag oeddan - mae Belg yn rhif un yn rhestr detholion y byd am reswm - ac felly dyma'r gorau y gallen ni fod wedi ei obeithio amdano.
Gorffen yn ail, lle yn y gemau ail gyfle, a ninnau ymhlith y prif ddetholion.
Felly beth sydd ei angen ar Gymru ym mis Mawrth i gyrraedd Cwpan y Byd 2022? A phwy sy'n sefyll yn ein ffordd ni?
12 tîm - tri lle
Rhowch o yn y dyddiadur - dydd Gwener, 26 Tachwedd, 16:00. Dyna pryd y bydd yr enwau'n dod allan o'r het i weld pwy fydd yn wynebu pwy y gwanwyn nesaf.
Mae 'na 12 tîm yn yr het - gydag ond tri ohonyn nhw'n hawlio'u lle yn Qatar ar y diwedd.
Y bwriad yw rhannu'r dwsin i dri 'llwybr' - felly o fewn grŵp o bedwar, bydd dau o'r detholion yn herio dau o'r timau 'gwanach', ac yna bydd enillwyr y ddwy ornest honno'n wynebu ei gilydd mewn 'ffeinal' i benderfynu pwy sy'n mynd drwyddo.
Y newyddion da i Gymru, fel un o'r detholion, ydi y byddwn ni adref yn ein rownd gynderfynol - a hynny yn erbyn Twrci, Gwlad Pwyl, Gogledd Macedonia, Yr Wcrain, Awstria neu'r Weriniaeth Tsiec.
Ond os ydan ni'n ennill yr ornest gyntaf yna, bydd enillwyr un o'r 'parau' eraill yn aros amdanon ni - mwy na thebyg, un o'r detholion eraill.
Pwy ydi'r rheiny, dwi'n clywed chi'n gofyn? Wel, mae'r rhestr honno'n cynnwys Yr Eidal a Phortiwgal (enillwyr y ddau Ewros diwethaf), yn ogystal â Rwsia, Sweden a'r Alban.
Bydd y seremoni dewis timau ddydd Gwener nesaf yn penderfynu felly pa dri thîm arall fydd yn ein llwybr ni, a phwy fydd yn cael chwarae adref yn y rownd derfynol.
Fel esiampl felly, fe allai Cymru wynebu Gogledd Macedonia yn y rownd gynderfynol, cyn herio enillwyr yr ornest rhwng Yr Alban ac Awstria (adref) yn y ffeinal.
Neu wrth gwrs, fe allen nhw wynebu senario tipyn fwy heriol - er enghraifft, Gwlad Pwyl adref, ac yna'r Eidalwyr neu Bortiwgal oddi cartref.
Bydd y cyfan yn cael ei benderfynu ymhen ychydig dros wythnos, a'r Wal Goch yn gweld bryd hynny ai llenwi Stadiwm Dinas Caerdydd ddwywaith yw'r nod, neu a fydd yn rhaid selio lle yng Nghwpan y Byd ar dir tramor.
Oes gobaith felly?
Sut mae'n gobeithion ni felly? Wel, mae rhai o'r gwybodusion ystadegol ar Twitter wedi bod yn darogan ein siawns yn barod, a teg ydi dweud bod mwy o dimau gwannach na ni yn y gemau ail gyfle na rhai cryfach.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond mae'n bur debygol y bydd yn rhaid curo un o'r detholion eraill yn y ffeinal - oddi cartref o bosib - a dydi'r un o'r rheiny'n edrych fel timau hawdd i'w trechu.
A dweud y gwir, yn y 30 gêm gystadleuol mae Cymru wedi'u chwarae ers 2018 yng nghyfnod Ryan Giggs ac yna Rob Page wrth y llyw, dydyn nhw erioed wedi curo unrhyw dîm sy'n uwch na nhw yn rhestr detholion y byd.
Ar y llaw arall dim ond unwaith yn y cyfnod yna maen nhw wedi colli i dîm sy'n is na nhw - sy'n dangos eu bod nhw'n gyson os nad unrhyw beth arall!
Y tri thîm yn y gemau ail gyfle sy'n uwch na ni yn rhestrau FIFA ar hyn o bryd? Yr Eidal, Portiwgal a Sweden - rheiny ydi'r rhai i'w hosgoi felly.
Beth am ambell i ystadegyn i godi calon cyn i ni gloi, felly? Dyma'r ail waith yn unig i Gymru hyd yn oed gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd - ac fe enillon ni y tro hwnnw (yn erbyn Israel i gyrraedd twrnament 1958).
A does ganddon ni ddim byd i'w ofni os mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd fydd y ddwy gêm - ers 2013, dim ond un gêm gystadleuol y mae'r crysau cochion wedi colli adref.
Ymlaen at fis Mawrth!
Hefyd o ddiddordeb: