Gêm ail gyfle i ddigwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore yn dathlu'r gôl a ddaeth â'r sgôr yn gyfartal toc wedi hanner awrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn dathlu'r gôl a ddaeth â'r sgôr yn gyfartal yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm ail gyfle ar gyfer Qatar 2022 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn ôl pennaeth Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr y gymdeithas, nad oedd "unrhyw ddyhead o gwbl i fynd i Stadiwm Principality" i'w chwarae.

Fe wnaeth y garfan sicrhau mai gêm gartref y byddan nhw'n ei chwarae yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle trwy ennill pwynt yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth.

Dywedodd Mr Mooney wrth raglen BBC Politics Wales y byddai'r tîm "bendant" yn chwarae'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Sbaen yn Stadiwm Principality, 2018.

Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd yn dal 33,000 o bobl, sydd wedi cael ei ddefnyddio'n bennaf gan Gymru ar gyfer eu gemau gartref ers 2011.

Ond fe wnaethon nhw herio Sbaen mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality, sydd yn dal 74,500, yn Hydref 2018.

"Rydyn ni'n hapus iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae'n cefnogwyr ni'n hapus iawn yno," dywedodd Mr Mooney.

Ychwanegodd hefyd os fydd Cymru'n cyrraedd rownd derfynol a gemau ail gyfle, a bod honno hefyd yn gêm gartref, fe fyddai'n cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het ar gyfer y gemau ail gyfle yr wythnos nesaf.