Rhagbrofol Cwpan y Byd: Cymru 1-1 Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Fe rwydodd Kieffer Moore ei wythfed gôl ryngwladol i unioni'r sgôrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe rwydodd Kieffer Moore ei wythfed gôl ryngwladol i unioni'r sgôr

Mae Cymru wedi gorffen yn ail yng Ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ar ôl sicrhau pwynt gwerthfawr yn erbyn Gwlad Belg.

Er bod Cymru eisoes yn sicr o le yn y gemau ail gyfle ar gyfer Qatar 2022 mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru ymhlith prif ddetholion gemau'r ail gyfle.

Mae hynny'n golygu y bydd gan Gymru gêm gartref yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Kieffer Moore sgoriodd y gôl hollbwysig i'r cochion yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Fe ddechreuodd Cymru yn eiddgar ond o fewn 12 munud fe sgoriodd Kevin De Bruyne i'r ymwelwyr gydag ergyd isel o ymyl y cwrt cosbi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kevin De Bruyne yn wefreiddiol ar adegau yn yr hanner cyntaf, ond fe gafodd lai o ddylanwad wedi'r egwyl

Wedi 26 munud roedd yna ymgais arall gan De Bruyne - o 30 llath y tro hwn - wedi pas wael gan Ben Davies ond roedd ei ergyd yn rhy uchel.

Ond toc wedi hanner awr tro'r cochion oedd dathlu wedi i Kieffer Moore sgorio gyda'i droed chwith wedi croesiad gan Dan James - ac roedd y ddau dîm yn gyfartal.

Cyn hanner amser roedd Gwlad Belg yn anlwcus i beidio sgorio eto wedi i Ben Davies gael ei gosbi ac roedd yna ymgais aflwyddiannus gan Moore o bell i gyfeiriad y gôl - y sgôr ar yr hanner 1-1.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn dathlu'r gôl a ddaeth â'r sgôr yn gyfartal toc wedi hanner awr

Doedd dim newid i'r naill dîm na'r llall ar ddechrau'r ail hanner.

Wedi rhai munudau roedd yna gyfle i Gymru wedi i Dedryck Boyata wneud camgymeriad - cafwyd croesiad isel llwyddiannus gan Daniel James ond roedd ergyd Connor Roberts i gyfeiriad y gôl yn rhy lydan.

Wedi awr o chwarae roedd yna ofnau bod Neco Williams wedi cael anaf wedi iddo wrthdaro yn erbyn Aaron Ramsey - yna cryn oedi yn y chwarae wedi anaf i Kieffer Moore wedi iddo yntau ergydio yn erbyn Dedryck Boyata.

Cyn diwedd y gêm roedd yna gryn droseddu ymhlith chwaraewyr y ddau dîm ac roedd cerdyn melyn i Kieffer Moore.

Ond roedd Neco Williams, Conner Roberts a Daniel James ar dân ac yn awyddus i blesio'r miloedd o gefnogwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y rheolwr Robert Page ei fod yn emosiynol ar ddiwedd y gêm

Gwlad Belg gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant yn ystod y gêm ond fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael a sicrhau pwynt.

Mae Cymru felly gam yn nes at gyrraedd Pencampwriaeth Cwpan y Byd - a hynny am y tro cyntaf ers 1958.

Fydd Joe Morrell ddim yn chwarae yn y gêm ail gyfle wedi iddo gael cerdyn melyn am ddal Axel Witsel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neco Williams yn un o chwaraewyr gorau Cymru ar y noson

Roedd Morrell, Aaron Ramsey, Joe Allen, Harry Wilson, Sorba Thomas, Chris Gunter a James Lawrence eisoes wedi cael cerdyn melyn yn ystod y gemau.

Yn gynharach ddydd Mawrth roedd yna gyhoeddiad na fyddai capten Cymru, Gareth Bale, yn chwarae gan ei fod yn gwella o anaf.

Bydd Cymru yn canfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar 26 Tachwedd ac fe fydd y gêm ail gyfle yn cael ei chwarae ym mis Mawrth.