Starmer ar brawf

  • Cyhoeddwyd

Os oes 'na bas ysbyty yn ein gwleidyddiaeth ni mae'n debyg taw cael eich dyrchafu'n arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan yw hwnnw.

Ers ethol Margaret Thatcher yn Brif Weinidog yn 1979 mae 'na 11 ohonyn nhw wedi bod, pob un ohonynt yn ddynion, gyda saith yn Llafurwyr a phedwar yn Dorïaid.

Dim ond dau ohonyn nhw wnaeth lwyddo i gyrraedd Rhif 10. Seren aur i bwy bynnag wnaeth enwi Tony Blair a David Cameron.

Mae ystyried llwyddiannau Blair a Cameron yn rhoi ffon mesur i ni allu barnu perfformiad y deiliad presennol, Keir Starmer.

Roedd Blair yn fab darogan o'r cychwyn gyda'r Ceidwadwyr yn ffraeo fel cathod mewn sach ynghylch Ewrop ac yn boddi mewn mor o sgandalau ariannol a phersonol. Plus ca change - fel maen nhw'n dweud yng Nghwmgors.

Serch hynny, mae'n annhebyg y byddai Blair wedi ennill o gymaint oni bai am waith caib a rhaw Neil Kinnock a John Smith i wneud i Lafur edrych fel plaid lywodraethol a dewis saff unwaith yn rhagor.

Mae'n ddigon posib y bydd Syr Keir yn troi mas i fod yn rhyw fath o John Smith neu Ioan Fedyddiwr yn braenaru'r tir ar gyfer rhyw Feseia sydd eto i ddod ond mae'r gymhariaeth â David Cameron efallai'n fwy diddorol.

Hawdd yw anghofio cymaint o fethiant oedd Cameron fel arweinydd yr wrthblaid yn ei flynyddoedd cynnar. Roedd ei addewid "hug a hoodie" yn destun gwatwar ac mae'n siŵr bod yntau ei hun yn cochi o weld y lluniau yna ohono fe ar gefn sled eira yn gwneud rhyw bwynt amgylcheddol neu'i gilydd.

Yr argyfwng ariannol byd-eang wnaeth roi agoriad i Cameron ac fe gymerodd fantais o'r cyfle mewn modd meistrolgar gan lwytho'r cyfan o'r bai ar ysgwyddau Gordon Brown. Mae'r canfyddiad hwnnw yn hongian fel cwmwl dros Lafur hyd y dydd heddiw.

Deued yr awr, deued y dyn a beth bynnag yw'ch barn am Cameron fel Prif Weinidog roedd ei gamp fel arweinydd yr wrthblaid llawer yn fwy nac un Blair.

Nawr dyw hanes byth yn ail-adrodd ei hun ond mae'n tueddu odli ac mae trafferthion Boris Johnson ar hyn o bryd yn cynnig adlais o'r rhai oedd yn wynebu Gordon Brown.

Hwn yw cyfle Syr Keir felly. Dyw e ddim yn debyg o gael un arall ac fe fydd yr wythnosau rhwng nawr a'r Nadolig yn rhai allweddol i'w arweinyddiaeth.