Arestio dyn wedi i ferch gael ei tharo gan gerbyd

  • Cyhoeddwyd
Heol CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Caerdydd, Aberaman toc cyn 19:30 nos Sadwrn

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ferch ddioddef anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan gerbyd yn Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Heol Caerdydd, Aberaman toc cyn 19:30 yn dilyn adroddiadau fod merch 14 oed wedi cael ei tharo gan gerbyd.

Fe gafodd ei chludo i'r ysbyty a dywedodd y llu ei bod dioddef anafiadau allai newid ei bywyd.

Ychwanegodd y llu fod gyrrwr y cerbyd - dyn 58 oed o Gwmaman - wedi cael ei arestio.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig