Sut mae delio gydag iselder y gaeaf?
- Cyhoeddwyd
Yr adeg yma o'r flwyddyn, wedi i'r clociau gael eu troi yn ôl, mae yna lawer o bobl yn mynd i deimlo'n isel, a hynny oherwydd tywyllwch y gaeaf.
Mae Anhwylder Affeithiol Tymhorol (neu Seasonal Affective Disorder - SAD) yn fath o iselder sy'n effeithio ar bobl yn ystod misoedd tywyllaf y flwyddyn.
Mae Dr Liza Thomas-Emrus yn feddyg teulu o Gaerdydd, gan arbenigo hefyd mewn Myfyrdod Personol, sy'n canolbwyntio ar feddygaeth meddwl, corff ac enaid.
Yma mae'n esbonio'r cyflwr Anhwylder Affeithiol Tymhorol gan roi cyngor ar sut i ddelio gyda'r symptomau:
Beth yn union yw Anhwylder Affeithiol Tymhorol?
Teip o iselder yw hwn, ond mae'n dymhorol. Mae ond yn effeithio ar bobl yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae'n gallu newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhai yn cael eu heffeithio fwy nag eraill. Dwi'n ei weld e'n gyffredin yn y clinig, a mae pethau gall pobl wneud.
Beth sy'n achosi'r anhwylder?
Mae'n gyflwr cymhleth. Yr hyn rydyn ni'n meddwl yw bod diffyg golau yn cael effaith mawr ar hwyliau pobl. Mae'n effeithio ar yr hormonau sy'n cael eu creu gan y corff, sef serotonin (yr hormon sy'n 'neud ni'n hapus ac yn ein codi ni lan), a melatonin (yr hormon sy'n ein helpu ni i gysgu).
Yn y gaeaf, rydyn ni'n cael llai o olau, mae'r corff yn ymateb i'r diffyg golau ac mae'r signal yn mynd i'r ymennydd i gynhyrchu'r hormon melatonin, a mae'n 'neud ni i deimlo'n gysglyd. Wrth i'r golau gynyddu, mae'r melatonin yn mynd i lawr yn y corff, ac yn ein helpu ni i deimlo ar ddihun.
Felly os ydych chi'n amau eich bod yn dioddef o Anhwylder Affeithiol Tymhorol, beth ddylech chi wneud?
Mae angen i chi siarad gyda'ch meddyg teulu, i weld os oes patrwm.
O fis Hydref, trwy'r gaeaf, rhai o'r symptomau i edrych amdanyn nhw ydy'r teimlad o fod yn ddi-werth, yn ddagreuol, yn fwy cysglyd, teimlo ei bod hi'n anodd i godi yn y bore. Mae hefyd yn gallu arwain at fwy o awydd bwyd yn enwedig carbohydrates, ac mae pobl mo'yn bwydydd fel siocled, bara gwyn neu reis gwyn.
Fel doctoriaid, rydyn ni'n ei drin fel pob math arall o iselder. Os oes rhywun yn dod ata' i gyda hwn, rydyn ni'n mynd trwy'r symptomau, gweld os oes patrwm, sut mae'n effeithio arnyn nhw o ddydd i ddydd a gweithio gyda'r claf i feddwl am gynllun.
Sut ydych chi'n helpu rhywun sy'n dioddef?
Rydw i'n disgrifio i'r cleifion bod yr hyn maen nhw'n ei feddwl yn effeithio arnyn nhw yn gorfforol hefyd.
Felly wrth wella, mae'n rhaid iddyn nhw gadw hwnna i gyd yn eu meddwl. S'dim un tabled yn mynd i sortio popeth mas - mae'n rhaid newid popeth i gyd gyda'i gilydd.
Os oes rhywun yn dod ata' i, byddwn ni'n trafod hunan-gymorth a newidiadau i ffordd o fyw. Fi'n defnyddio lot o feddygaeth meddwl, corff ac enaid, achos dwi'n ffeindio hwn yn gweithio'n dda.
Beth all rywun wneud i helpu eu symptomau?
Bwyta'n iach: Mae angen llawer o ffrwythau a llysiau, mae'n rhaid i'r plât edrych yn amryliw. Mae 95% o seratonin yn cael ei greu yn y perfedd, felly mae'n rhaid i ni fwydo'r perfedd yn iawn, a'r mwya' o lysiau a ffrwythau amryliw sydd yn y deiet, gore yw hynny i iechyd y perfedd.
Rheoli cloc y corff: Rwy'n cynghori bod pobl yn bwyta ac yfed o fewn 10 awr o'r diwrnod a wedyn dim ond yn yfed dŵr neu'n cysgu am yr 14 awr arall o'r dydd. Er enghraifft, rwy'n bwyta a yfed o 10:00 y bore tan 20:00 y nos, a wedyn o 20:00 y nos tan 10:00 y bore dwi jyst yn cael dŵr neu'n cysgu. Mae hwnna'n llesol i gloc y corff, ac felly yn helpu gyda chyflwr SAD.
Ymarfer corff: Yn y gaeaf, oherwydd y tywydd a'r tywyllwch, mae pobl yn 'neud llai o ymarfer corff, ond mae'n neud lles ac yn cynyddu'r egni.
Myfyrdod: Rydw i wedi fy hyfforddi mewn myfyrdod, ac os ydych chi'n dechrau gyda hwnna bob bore trwy'r misoedd gaeafol bydd yn eich helpu. Os wnewch chi gau eich llygaid a dychmygu ei bod hi'n olau, wedyn mae'n dweud wrth yr ymennydd bod lot o olau o gwmpas, mae'n helpu yn y bore, mewn theori, i leihau y melatonin a chodi'r lefel o serotonin.
Wedyn pan mae gyda chi fwy o egni yn y bore, mae mwy o motivation, ac mae pobl yn gallu 'neud ymarfer corff a bwyta'n fwy iach. Os ni'n newid y mindset, mae popeth arall yn haws.
O ble ddaeth y diddordeb i astudio meddygaeth meddwl, corff ac enaid?
Rwy' wedi bod yn feddyg ers 14 mlynedd, a dwi wastad wedi cael diddordeb mewn prevention, achos fi'n gwybod bod moddion yn gyfyngedig.
Cafodd fy merch fach ddiagnosis o neurofibromatosis a s'dim moddion i gael at y cyflwr, felly oedd rhaid i fi ymchwilio beth arall sy'n gallu helpu i leihau y risg o bethau'n mynd yn waeth. Ac felly fe wnes i edrych ar feddygaeth meddwl, corff ac enaid.
Mae hyn hefyd yn cael ymateb da gan y cleifion achos maen nhw'n teimlo fwy o reolaeth gan eu bod nhw yn teimlo'n pro-active ac felly yn llai pryderus. Unwaith mae'r wyboaeth gyda nhw, mae'n gallu helpu nhw yn eu bywydau.
Dim meddyginiaeth yw'r ateb i bopeth ond newidiadau i ffordd o fyw. Dwi'n rhoi antidepressants fel Plan B, ond yn edrych ar newidiadau i ffordd o fyw yn gyntaf.
Rwy'n dweud wrth bobl - deiet, ymarfer corff, myfyrdod ac os ydyn nhw'n bryderus, i siarad gyda'r meddyg teulu - ni yma i helpu.
Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ym mis Hydref 2019.
Hefyd o ddiddordeb: