Gofal 'annerbyniol' i blant yn Abertawe, medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am broblemau "siomedig" a "chwbl annerbyniol" gyda thriniaeth plant ag anableddau a'u teuluoedd.
Fe wnaeth adroddiad hynod feirniadol am Wasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddarganfod bod teuluoedd yn rhwystredig dros lefelau gwael o gyfathrebu a rheoli perthnasoedd.
Dywedodd yr adroddiad bod perthnasoedd rhwng rhieni a staff "yn torri'n hawdd ac yn cael eu trwsio'n wael," a bod yna "argraff o sancsiynau" pe bawn nhw'n cwyno.
Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd y byddai pethau'n newid o fewn y gwasanaeth.
Roedd yna "broblemau difrifol" gyda'r gwasanaethau nyrsio, meddai Mark Hackett, wrth ddweud ei fod yn "ymddiheuro'n llawn" i'r teuluoedd gafodd eu heffeithio.
Cuddio patrymau pryderus
Fe wnaeth yr adroddiad graffu ar driniaeth 20 o deuluoedd plant oedd yn derbyn gofal parhaus o fewn y bwrdd iechyd rhwng Ebrill 2019 a Medi 2020.
Dywedodd bod yna ddiffyg llywodraethu clir o fewn y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol (CCN), gan olygu nad oedd modd adnabod patrymau pryderus oedd yn codi.
Roedd hyn hefyd yn caniatáu ffordd o weithio oedd yn cuddio'r patrymau hyn rhag y bwrdd iechyd.
"Roedd rhieni'n rhwystredig o ganlyniad i gyfathrebu a rheoli perthnasoedd gwael gan arweinwyr y gwasanaeth, gan dorri'r berthynas rhwng rhieni a staff," meddai'r adroddiad.
"Roedd yna argraff y byddai sancsiynau'n cael eu cyflwyno gan y gwasanaeth petai teuluoedd yn cwyno oherwydd diffyg ymddiriedaeth a / neu ddinistr llwyr o'r berthynas rhyngddyn nhw."
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd feirniadu "arddull arwain anhyblyg" wnaeth achosi i staff deimlo'n "rhwystredig ac isel eu hysbryd" wedi iddynt leisio pryder am eu gallu i redeg gwasanaeth diogel yn ystod y pandemig.
Yn ogystal, fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod bod penderfyniadau ar ofal parhaus i blant yn cael eu gwneud gan banel o oedolion gyda "gwybodaeth gyfyngedig" i gefnogi eu penderfyniadau, a "diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth" o brosesau ehangach y bwrdd iechyd.
Ychwanegodd yr adroddiad y gwelodd y teuluoedd welliant i gyfathrebu a darpariaeth y gwasanaeth wedi i'r bwrdd iechyd weithredu cyn ac ar ôl yr arolygiad annibynnol.
'Pob ymdrech i wella'
Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Mark Hackett: "Yn anffodus, mae hi'n glir iawn o'r adroddiad annibynnol hyn fod yna broblemau difrifol wedi bod ynghylch darpariaeth gofal a'r diwylliant o arweinyddiaeth o fewn ein gwasanaeth nyrsio plant cymunedol am dipyn o amser.
"Mae hyn yn andros o siomedig ac yn gwbl annerbyniol. Ar ran y bwrdd iechyd, rydw i'n ymddiheuro'n llawn i'r teuluoedd gafodd eu heffeithio.
"Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau y bydd ein gwasanaeth llawer yn fwy cynhwysol ac wedi ei ffocysu ar anghenion y plentyn yn y dyfodol.
"Ein blaenoriaethau ni nawr yw atgyweirio perthnasoedd gyda theuluoedd a gweithio ochr yn ochr gyda nhw i wella'n gwasanaethau."
Dywedodd Kate Young, cyfarwyddwraig Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr (All Wales Forum of Parents and Carers) bod y 18 mis diwethaf wedi dwysáu'r straen ar wasanaethau arbenigol, a throi "craciau" yn y gwasanaeth yn holltau mawr.
"Mae hynny'n golygu, pan fyddwn ni'n dod at gyfnod adferiad, ei bod hi'n angenrheidiol nad ydym yn anghofio am y gwasanaethau arbenigol hyn - ni allent fod y pethau olaf i'w rhoi yn ôl yn eu lle," meddai.
"Hefyd, ni allent gael eu rhoi yn ôl yn y ffordd yr oeddynt yn cael eu gwneud cynt, achos doedden nhw ddim yn gweithio'n iawn bryd hynny, felly mae'n rhaid inni wneud yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021