Parti pen-blwydd mwya'r Urdd i ddathlu'r canmlwyddiant

  • Cyhoeddwyd
urdd

Bydd yr Urdd yn cynnal y parti pen-blwydd mwyaf yn hanes y mudiad, ac yn ymgeisio am ddau deitl Guinness World Records fel rhan o'r dathliadau canmlwyddiant yn 2022.

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi manylion y dathliadau, fydd yn dechrau ar 25 Ionawr gyda pharti arbennig ar gyfer ysgolion Cymru yng nghwmni cyflwynwyr rhaglen Stwnsh Sadwrn.

Bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Bydd ymgais i dorri record byd ddwywaith drwy gyd-ganu ac uwchlwytho fideos o'r gân eiconig, Hei Mistar Urdd, i Twitter a Facebook.

Bydd rhai o'r dathliadau eraill yn cynnwys teithiau rhyngwladol i bobl ifanc, Gŵyl Chwaraeon, Cyngerdd Dathlu Canmlwyddiant yr Urdd, a chynhyrchiad theatr fydd yn teithio o amgylch ysgolion.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canmlwyddiant yn 'flwyddyn i'w chofio' yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis

Ail-adeiladu

Ers ei sefydlu yn1922, mae'r Urdd wedi rhoi cyfleoedd i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru gael profiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol a gwirfoddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe gafodd y pandemig effaith sylweddol ar y mudiad, gydag Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi ei gohirio ddwywaith, gwersylloedd y mudiad wedi gorfod cau a gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol wedi dod i stop.

Yn ôl Prif Weithredwr y mudiad, Siân Lewis, mae nhw'n ceisio ail-adeiladu, ac mae'r dathliadau canmlwyddiant yn rhan o hynny.

"Mi fydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn flwyddyn i'w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchiad o'n hysbryd a'n huchelgais," meddai.

"Rydym hefyd yn buddsoddi yn sylweddol yn ein gwersylloedd a bydd tri agoriad cyffrous yn 2022; agoriad y gwersyll amgylcheddol cyntaf o'i fath yng Nghymru ym Mhentre Ifan, Sir Benfro; agoriad calon y gwersyll yn Llangrannog ac agoriad canolfan ddŵr newydd yng Nglan-llyn."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Urdd yn cynnal dathliadau gydol 2022

Mae'r prif weithredwr yn galw ar holl ysgolion, aelwydydd, gwirfoddolwyr, busnesau a mudiadau, ac aelodau hen a newydd i fod yn rhan o'r parti ym mis Ionawr.

"Mae hwn yn gyfle i chi ddathlu ac yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu fawr i wneud yr Urdd yn fudiad allweddol bwysig i Gymru a'r Cymry."

Bydd rhai o ddigwyddiadau eraill y flwyddyn yn cynnwys teithiau rhyngwladol i bobl ifanc i America, Iwerddon a Norwy, gyda chynlluniau arbennig ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r canmlwyddiant.

Bydd yr Adran Chwaraeon yn cynnal Gŵyl Gemau Trefol Cymru ym Mae Caerdydd - a fydd yn arddangos chwaraeon Olympaidd newydd megis BMX a sglefrfyrddio.

Fe fydd Cynhadledd Chwaraeon Ieuenctid Benywaidd cyntaf Cymru, sef #FelMerch, yn ogystal â Thwrnamaint Urdd WRU Rygbi 7 bob ochr.

Cynhelir Cyngerdd Dathlu Canmlwyddiant yr Urdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac mae S4C wedi comisiynu cyfres fydd yn dangos Llangrannog drwy'r degawdau. Bydd y cynhyrchiad theatr Sioe Mewn Cymeriad 'Canrif Syr Ifan' yn teithio o amgylch ysgolion Cymru.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mistar Urdd yn y Llyfrgell Genedlaethol

Yn ogystal â dathlu Wythnos Archwiliwch Eich Archif gyda Mistar Urdd yr wythnos hon, bydd cartref swyddogol archif yr Urdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i nodi'r canmlwyddiant, gan gynnwys arddangosfeydd a gweithdai.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Mae'r Urdd yn parhau i fod yn fudiad cenedlaethol anhepgorol sy'n dal i gyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc a hyrwyddo'r Gymraeg yr un pryd, a hynny gan mlynedd ers iddo gael ei sefydlu.

"Ni ellid mesur maint cyfraniad y mudiad i'n bywyd cenedlaethol a braf yw medru dweud fod llawer o waith y mudiad wedi'i gofnodi yma yng nghasgliadau'r Llyfrgell, mewn archif, llyfrau, sain a delweddau symudol. "