Achos o ffliw adar wedi ei gadarnhau ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
adarFfynhonnell y llun, PA Media

Mae achos arall o ffliw adar wedi ei gadarnhau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y tro hwn mewn haid o ieir a hwyaid ar Ynys Môn.

Dywedodd Christianne Glossop fod hyn yn "dystiolaeth bellach o'r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch".

Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km bellach wedi ei gosod o amgylch y safle heintiedig ar yr ynys, i gyfyngu ar y risg o ledu'r clefyd.

Daw hynny wrth i fesurau newydd ar gadw ddofednod baratoi i gael eu cyflwyno ar draws Cymru gyfan o ddydd Llun ymlaen.

'Risg isel i bobl'

Cafodd yr achos cyntaf o ffliw adar ei gadarnhau yn ardal Wrecsam fis diwethaf, a hynny yn dilyn achosion tebyg diweddar yn y DU ac ar gyfandir Ewrop.

Ond dywedodd y prif swyddog milfeddygol fod y risg i iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn "isel iawn", ac nad ydyn nhw'n peri risg o ddiogelwch bwyd.

Ni ddylai'r cyhoedd godi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw, ond yn hytrach, fe ddylen nhw gysylltu â llinell gymorth Defra os ydyn nhw'n dod i gyswllt ag anifail heintus.

"Rydym wedi cyhoeddi y bydd mesurau lletya newydd yn dod i rym o ddydd Llun nesaf i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o'i gyfuno â gweithredu'r mesurau bioddiogelwch llymaf," meddai Dr Glossop.

Pynciau cysylltiedig