Parth atal ffliw adar yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cadw adar caeth gydymffurfio â'r parth atal

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod Parth Atal Ffliw Adar yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan o ddydd Mercher ymlaen.

Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS, mae parth o'r fath wedi dod i rym ledled Prydain ers 17:00.

Daw wedi i straeon heintus H5N1 ffliw adar gael ei ganfod mewn rhai lleoliadau ym Mhrydain yn ddiweddar, gan gynnwys mewn eiddo yn Wrecsam.

Mae'r parth atal yn golygu y bydd yn rhaid i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill "gymryd camau priodol ac ymarferol".

Mae hynny'n cynnwys cael gwared ar unrhyw ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt, a sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar.

Os yw pobl yn cadw dros 500 o adar bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl sydd ddim yn hanfodol, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar a glanhau a diheintio cerbydau.

'Ffordd gymesur o ymateb'

Dywedodd Ms Griffiths y bydd y rheoliadau'n "parhau tan bod y risg yn gostwng i lefel sy'n dweud wrthym nad oes ei angen mwyach", ac y bydd yn cael ei "adolygu'n rheolaidd".

"Gydag un achos o ffliw adar wedi'i gadarnhau mewn dofednod yng Nghymru, yn ogystal ag achosion ymhlith adar gwyllt, rwyf o'r farn bod y parth atal hwn a'r gofyniad i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg rydym yn ei hwynebu," meddai.

"Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu'n diwydiant dofednod a'n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gofyn i unrhyw un sy'n cadw dros 500 o adar gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol

Ychwanegodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a'r Alban mewn datganiad ar y cyd: "Waeth p'un a oes gennych ddyrnaid neu filoedd o adar, mae gofyn cyfreithiol arnoch nawr i gyflwyno safonau bioddiogelwch llymach ar eich fferm neu'ch tyddyn.

"Gwnewch hyn er eich lles eich hunain a gwarchod eich adar rhag y clefyd heintus iawn hwn.

"Mae Asiantaethau Iechyd y DU wedi cadarnhau bod y risg i iechyd y cyhoedd yn fach iawn ac yn ôl yr Asiantaethau Safonau Bwyd, nid yw ffliw'r adar yn peryglu diogelwch bwyd yn y DU."

Beth yw ffliw adar?

Ffliw adar, neu ffliw avian, yw ffliw heintus sy'n lledaenu ymysg adar.

Dywed y GIG ei fod yn gallu effeithio ar fodau dynol - ond dim ond mewn achosion prin.

Hyd yn hyn does dim achosion o bobl wedi'u heintio gan y ffliw adar yn y DU, yn ôl y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Gwarchod Adar (RSPB).

Mae ffliw yn lledaenu trwy gyswllt agos gydag aderyn sydd wedi'i heintio, p'un ai ei fod wedi marw neu'n fyw.

Mae yna ddau fath o'r feirws - un heintus iawn ac un llai heintus, meddai'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE).