Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes, 65, ger Pontypridd

  • Cyhoeddwyd
June Fox-RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ei theulu bod June Fox-Roberts yn ddynes "garedig a hael"

Mae dyn wedi bod o flaen llys wedi iddo gael ei gyhuddo o lofruddio dynes 65 oed gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref ddechrau'r wythnos.

Cafwyd hyd i gorff June Fox-Roberts yn ei chartref yn St Anne's Drive, yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd ddydd Sul.

Ymddangosodd Luke Deeley, 25, o Bontypridd, gerbron Llys Ynadon Merthyr ddydd Gwener. Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron ddydd Llun 29 Tachwedd.

Dywed yr heddlu nad yw'n ymddangos ar hyn o bryd bod cysylltiad rhwng Ms Fox-Roberts a Mr Deeley.

Er fod cyfieithydd yno i drosi trafodion y llys i'r diffynnydd i'r Gymraeg, fe wnaeth Mr Deeley ateb bob cwestiwn yn Saesneg.

Disgrifiad o’r llun,

Luke Deeley (mewn llwyd) yn cael ei arwain i'r llys fore Gwener

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Darren George, y prif swyddog sy'n ymchwilio i'r achos: "Fe fyddwn yn hoffi diolch yn bersonol i'r gymuned leol am ei chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.

"Mae cyhuddo dyn lleol 25 oed yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad ac rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rywfaint o sicrwydd i'r gymuned leol.

"Dwi hefyd yn gallu cadarnhau nad oes, ar hyn o bryd, unrhyw gysylltiadau hysbys rhwng June a'r person sydd wedi cael ei gyhuddo.

"Unwaith eto rwy'n erfyn ar bobl i beidio darogan dim ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n meddwl am June a'i theulu sy'n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."

Mewn datganiad yn rhoi teyrnged i June Fox-Roberts dywedodd ei theulu ei bod yn "ddynes garedig, hael a oedd yn hapus yng nghwmni ei theulu a'i ffrindiau".