Plaid Cymru 'eisiau mynd yn bellach' ar ofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
gofal plantFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Plaid Cymru eisiau i Lywodraeth Lafur Cymru "fynd ymhellach" ar ofal plant am ddim, yn ôl arweinydd y blaid.

Dywedodd Adam Price ei fod eisiau gweld gweinidogion yn symud "mor gyflym â phosib" tuag at gyflwyno polisi Plaid o "ofal i bob plentyn am ddim".

Fel rhan o'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd, mae'r ddwy blaid wedi dweud y bydd gofal plant am ddim yn cael ei ymestyn i blant dwy oed.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "falch" o'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ac y bydd y cytundeb cydweithio'n golygu cyfle i "weithio tuag at ymestyn y ddarpariaeth" o ran gofal plant.

'Datganoli mwy o bwerau'

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, wnaeth Adam Price ddim dweud faint o oriau o ofal plant am ddim y gallai rhieni plant dwy oed ddisgwyl eu cael, gan ddweud y byddai'r manylion yn dod "yn y man".

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n caniatáu i rieni sy'n gweithio, ac sydd â phlant tair neu bedair oed, i hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn.

Dan gytundeb Llafur-Plaid, byddai rhieni plant dwy oed yn elwa o ofal plant am ddim os ydyn nhw'n gweithio neu beidio.

Pan ofynnwyd a fyddai hynny'n golygu bod rhiant di-waith yn colli'r hawl i ofal am ddim unwaith roedd eu plentyn yn troi'n dair, dywedodd Mr Price y byddai "newidiadau i'r cynnig presennol hefyd".

"Rydyn ni eisiau eu gweld nhw'n symud mor gyflym â phosib tuag at sefyllfa, sef polisi Plaid Cymru, o ofal i bob plentyn am ddim," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod y ddwy blaid yn cydweithio, fydd gan Adam Price ddim gweinidogion yn llywodraeth Mark Drakeford

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu mwy o plant a theuluoedd i gael mynediad i ofal plant wedi'i gyllido, a byddwn yn gweithio i ymestyn y ddarpariaeth yn unol â'r ymrwymiadau yn y cytundeb cydweithio.

"Rydym yn falch o'r gofal plant o safon uchel sy'n cael ei ddarparu drwy raglen Dechrau'n Deg, a'n cynnig gofal plant ni sy'n helpu rhieni sy'n gweithio, ac wedi cael ei groesawu gan deuluoedd ar draws Cymru."

Wrth drafod gofal cymdeithasol, dywedodd Adam Price y byddai cynllun mewn lle erbyn 2023 yn seiliedig ar argymhellion grŵp o arbenigwyr annibynnol ar sut i sicrhau gofal cymdeithasol am ddim i bawb.

"Mae hwnna'n newid mawr i bolisi cyhoeddus," meddai.

"Dyw llywodraeth Lafur Cymru erioed wedi cytuno i hynny o'r blaen, ac rydyn ni wedi llwyddo i newid y safbwynt mewn ffordd radical fel rydyn ni wedi'i wneud mewn meysydd eraill."

Addo gormod?

Mae addewid hefyd i gomisiynu cyngor annibynnol ar symud y targed allyriadau sero net o 2050 i 2035 - ond mae amcangyfrifon wedi awgrymu bod 60% o'r meysydd ble gall Cymru leihau carbon yn rhai sydd heb eu datganoli.

Dywedodd Mr Price y byddai unrhyw ymgais i gyrraedd sero net yn gynt yn gorfod felly cynnwys "datganoli mwy o'r pwerau hynny".

"Mae ymrwymiad pwysig iawn i greu cwmni ynni cyhoeddus, buddsoddi yn ein potensial ein hunain am ynni adnewyddadwy, sy'n enfawr ond heb ei fanteisio arno yn iawn eto," meddai.

Ychwanegodd Mr Price y byddai'r ddwy blaid yn cytuno ar y camau nesaf i ddiwygio treth cyngor, gan nad oes manylion ar y cynlluniau hynny yn y cytundeb hyd yma.

Ond mynnodd arweinydd Plaid Cymru y byddai modd gwireddu'r cytundeb cyfan, sy'n cynnwys gweithredu mewn nifer o feysydd eraill hefyd.

"Mae gwleidyddiaeth wastad yn cyfuno dau beth, sef pethau cadarn allwch chi wireddu yn y fan a'r lle sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg... ac ar yr un pryd, mae'n bwysig ein bod ni'n gosod y seilwaith ar gyfer cyfeiriad Cymru yn y dyfodol."