Dyn, 25, yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw 65 oed

  • Cyhoeddwyd
Luke Deeley
Disgrifiad o’r llun,

Luke Deeley (mewn llwyd) yn cael ei arwain i'r llys fore Gwener

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw 65 oed yn ei chartref.

Cafwyd hyd i gorff June Fox-Roberts yn ei thŷ yn St Anne's Drive, Llanilltud Faerdref ar 21 Tachwedd.

Ymddangosodd Luke Deeley, 25, yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo fore Llun.

Mae wedi'i gyhuddo o lofruddio Ms Fox-Roberts yn ei chartref, rhwng 19 a 21 Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei theulu bod June Fox-Roberts yn fenyw "garedig a hael"

Yn ystod y gwrandawiad rhagarweiniol siaradodd Mr Deeley i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr 2022.

Mae dyddiad achos wedi'i bennu dros dro ar gyfer 9 Mai y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig