Ffrwyth eu Llafur
- Cyhoeddwyd
Dyma gwestiwn bach i chi.
Os oeddech chi'n wleidydd Llafur ifanc uchelgeisiol o Gymru ai Senedd Bae Caerdydd yntau un San Steffan fyddai'n apelio atoch chi?
Roeddwn i'n pendroni ynghylch hynny ar ôl ystyried newidiadau Keir Starmer i Gabinet yr wrthblaid ddoe, newidiadau a welodd nifer yr aelodau o Gymru yn gostwng o dri i ddau gyda'r ddau sy'n weddill yn cael eu hisraddio.
Nawr dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sy'n chwilio'n fwriadol am straeon "sarhad ar Gymru" nac yn gweld pob dim fel "slap in the face for Wales" fel mae ambell newyddiadurwr a gwefan yn gwneud. Fe wnâi adael hynny i eraill ond mae'n weddol amlwg nad oedd llais Cymru yn ei gabinet ar flaen meddwl Keir Starmer wrth iddo ddewis ei dîm .
Nawr ystyriwch ffawd y ddau aelod Cymreig sy'n weddill yn y cabinet hwnnw. Cafodd Nick Thomas- Simmonds ei israddio o fod yn llefarydd materion cartref, nid oherwydd unrhyw fethiant ar ei ran fe'i hun, ond er mwyn creu swydd i Yvette Cooper, un o'r llond dwrn o wleidyddion Llafur y gall cyfran sylweddol o'r cyhoedd eu henwi.
Fe wnaeth Jo Stevens hefyd derbyn ei ffawd gydag urddas ond er ein bod ni yma yng Nghymru yn ystyried llefarydd yr wrthblaid ar Gymru fel swydd o bwys, nid felly y mae'n cael ei gweld yn Llundain. Y gwir amdani yw bod aelodau Torfaen a Chanol Caerdydd wedi eu gwthio o'r canol i'r cyrion.
Pe bai'r pâr wedi dewis llwybr Cymreig i'w gyrfaoedd ar y llaw arall, does dim dwywaith yn fy meddwl i y byddant yn weinidogion cabinet ac yn ffrâm i olynu Mark Drakeford fel Prif Weinidog.
Dydw i ddim yn ddarllenydd meddyliau ond oni fyddai hynny'n well ffawd na'r un sy'n eu wynebu yn San Steffan?
Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod Aelodau Seneddol Llafur Cymru bellach yn ymddangos yn garfan bur ymylol yn nhermau gwleidyddiaeth Cymru a hefyd oddi mewn i'r blaid Lafur Brydeinig. Gall hynny ond waethygu gyda chwtogi nifer yr aelodau seneddol o Gymru a chynyddu aelodaeth Senedd Cymru.
Fe wnaeth yr arweinydd Rhyddfrydol Jo Grimond addewid enwog i arwain ei filwyr at sŵn y gynnau. Efallai y byddai hynny gyngor da i'r Jo arall sy'n cynrychioli Canol Caerdydd ac i Nick lan yn Nhorfaen hefyd.
Martsiwch at sŵn y gynnau. Ym Mae Caerdydd y mae'r rheiny bellach.