Aelodau Plaid Cymru'n rhoi sêl bendith i gytundeb cydweithio
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Plaid Cymru wedi rhoi sêl bendith i gytundeb cydweithio â'r blaid Lafur yn y Senedd.
Fe wnaeth yr aelodau bleidleisio ar y cytundeb ddydd Sadwrn yn ystod cynhadledd rithwir y blaid.
Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, mai dyma oedd ei "foment fwyaf balch" mewn gwleidyddiaeth, ac y bydd y cynigion yn newid bywydau miloedd o bobl.
Mae cynlluniau i roi prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn dangos bod y blaid yn gwneud gwahaniaeth, meddai.
Cymryd dim 'yn ganiataol'
Cymeradwywyd y cytundeb cydweithio, sydd i fod i bara tair blynedd, gan bwyllgorau gweithredol Plaid Cymru a Llafur yr wythnos ddiwethaf, cyn pasio'r cam olaf brynhawn Sadwrn.
Ond cyn y bleidlais fe wnaeth Mr Price gydnabod wrth BBC Cymru y bydd gan rai aelodau bryderon ynghylch sut y gallai gweithio gyda Llafur fynd i lawr ar stepen y drws.
Wrth siarad wedi'r bleidlais dywedodd y byddai'r blaid nawr yn gallu gwireddu rhai o'i haddewidion a chael Llywodraeth Cymru i basio rhai o'u polisïau.
"Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i Gymru a'n democratiaeth," meddai. "Bydd y Cytundeb Cydweithredu yn dod â budd uniongyrchol a hirdymor i bobl Cymru."
"Mae hon yn Rhaglen Llywodraeth sy'n adeiladu cenedl a fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ar hyd a lled ein gwlad er gwell ac yn gosod ein cenedl ar gam nesaf ein taith gyfansoddiadol genedlaethol."
Wrth siarad gyda BBC Cymru'n ddiweddarach, ychwanegodd: "Galla i ddweud heb amheuaeth mai dyma'r foment fwyaf balch i mi mewn dau ddegawd o wasanaeth cyhoeddus.
"Dyw e ddim yn dod llawer mwy emosiynol na phwysig i mi na hyn."
Er na fydd gan Blaid Cymru weinidogion, fe fyddan nhw'n penodi ymgynghorwyr i weithio gyda'r llywodraeth ar y cytundeb.
Bydd Mr Price hefyd yn cadeirio pwyllgor gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford i oruchwylio'r gwaith.
"Mae'n rhaid i ni ei gael e mewn lle nawr i sicrhau ein bod ni'n cyflawni potensial radical y ddogfen," meddai Mr Price.
Mae'r cytundeb yn cynnwys ystod eang o bolisïau, gan gynnwys cynllun i "gomisiynu cyngor annibynnol" i edrych ar sut y gallai Cymru symud ei darged sero net o 2050 i 2035, ac ehangu'r Senedd.
Mae prif elfennau eraill y cytundeb yn cynnwys:
Cyflwyno trethi twristiaeth lleol;
Cyhoeddi cynigion ar reoli rhent i wneud eiddo'n fforddiadwy i bobl leol;
Diwygio cyfraith tai i ddod â digartrefedd i ben;
Creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Mae addewid hefyd i "weithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni ynni cyhoeddus ar gyfer Cymru, dros y ddwy flynedd nesaf" a gweithio ar gyfundrefn cymhorthdal ffermio newydd i gymryd lle'r rheiny oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd.
Yn yr anerchiad a recordiwyd ymlaen llaw ddydd Gwener, disgrifiodd Mr Price y cytundeb fel "rhaglen adeiladu cenedl ar gyfer llywodraeth a fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ar hyd a lled ein gwlad er gwell".
Enillodd Llafur 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd ym mis Mai, felly nid oes ganddyn nhw fwyafrif cyffredinol fel Llywodraeth Cymru.
Enillodd Plaid Cymru aelod ychwanegol o'r Senedd, gan roi 13 iddi, ond fe ddisgynnodd i'r trydydd safle y tu ôl i'r Ceidwadwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021