Ymddiheuro i fenyw am dan-gyhuddo ei chyn-gariad

  • Cyhoeddwyd
Gareth JexFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Jex ei ddedfrydu i 56 wythnos o garchar ym mis Gorffennaf am gyfres o droseddau

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymddiheuro i fenyw o dde Cymru am beidio â chyhuddo ei chyn-gariad o drosedd fwy difrifol wedi iddo ymosod arni.

Ym mis Mai fe wnaeth Gareth Jex dagu ei gariad ar y pryd, ei dyrnu yn ei hwyneb, brathu ei thrwyn a bygwth ei "hanffurfio".

Cafodd ei gyhuddo o ymosod cyffredin, sy'n cario dedfryd o uchafswm o chwe mis yn y carchar.

Mae barnwr Llys Apêl wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "annealladwy", gan ychwanegu fod Jex wedi derbyn dedfryd "llawer byrrach" na'r oedd yn haeddu.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cydnabod fod y cyhuddiad yn un anghywir, gan ddweud y dylai Jex fod wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol (actual bodily harm).

Uchafswm dedfryd y drosedd honno ydy pum mlynedd o garchar.

Ond ym mis Gorffennaf eleni cafodd Jex ei ddedfrydu i gyfanswm o flwyddyn a phedair wythnos o garchar, am amryw o droseddau gan gynnwys yr ymosodiad.

'Diffyg cyfiawnder'

Cafodd y penderfyniad i'w gyhuddo o un achos o ymosod ei alw'n "anghywir" gan uwch-farnwyr yn y Llys Apêl fis diwethaf.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Edis fod cyn-gariad Jex, sydd ddim yn cael ei henwi, wedi cael diffyg cyfiawnder.

Ychwanegodd fod yr ymosodiad yn "o leiaf un drosedd o achosi niwed corfforol" a bod "nodweddion o garcharu'r dioddefwr yn ei chartref ei hun".

Nododd hefyd fod Jex wedi'i gael yn euog o 65 trosedd neu dorri gorchmynion llys rhwng 2001 a 2020.

"Pe bai'r drosedd yma wedi'i chyhuddo'n gywir fe fyddai wedi cyfiawnhau dedfryd sylweddol iawn, o ystyried record ofnadwy'r diffynnydd, sy'n cynnwys sawl achos o dorri gorchymyn atal a gafodd ei osod er mwyn amddiffyn y dioddefwr yma," meddai'r Arglwydd Ustus Edis.

Clywodd y Llys Apêl hefyd ddatganiad gan gyn-gariad Jex ddywedodd ei bod yn "gragen o'r person oeddwn i o'r blaen" o ganlyniad i "gam-drin meddyliol, cenfigen difrifol a rheolaeth Gareth".

56 wythnos o garchar

Cafodd Jex, oedd yn 35 oed ar y pryd, ei ddedfrydu i 56 wythnos o garchar ym mis Gorffennaf am y cyhuddiad o ymosod cyffredin, achosi difrod troseddol, dau achos o dwyll a dau gyhuddiad arall o ymosod oedd ddim yn ymwneud â'i gyn-gariad.

Roedd y ddedfryd honno hefyd ar gyfer tri achos o ddwyn ac un o boenydio rhywun ar sail hil - troseddau yr oedd wedi derbyn dedfryd o garchar wedi'i ohirio amdanynt mewn achos blaenorol.

Mae manylion yr achos a barn y Llys Apêl wedi dod i'r amlwg wedi i Jex apelio yn erbyn dedfryd gafodd ei rhoi yn Llys y Goron Merthyr Tudful ym mis Gorffennaf - apêl a gafodd ei wrthod.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod "adolygiad o'r dystiolaeth wedi dod i'r canlyniad fod y cyhuddiad yn anghywir".

"Rydyn ni wedi ysgrifennu at y dioddefwr i ymddiheuro am ein triniaeth o'r achos ac rydym yn gweithredu i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi'u hadnabod," meddai.