'Angen cynyddu hyder y cyhoedd' mewn achosion treisio
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth newydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru'n dweud bod angen gweld newid nawr i wella hyder y cyhoedd mewn achosion o dreisio.
Dywedodd Jenny Hopkins fod hyder y cyhoedd wedi cael ei "ergydio'n fawr" a bod gwaith wedi dechrau i wella hynny.
"Does dim gyda ni amser i aros am genhedlaeth i wneud hyn," meddai. "Mae'n newid sydd angen digwydd nawr."
"Rydyn ni'n barod wedi dechrau'r broses ond mae'n rhaid i ni barhau i adeiladu ar hyn a rhoi'r hyder i bobl i ddod ymlaen, ac i fod yn ddigon dewr i adrodd beth sydd wedi digwydd iddyn nhw."
Dengys ymchwiliad diweddar ar y cyd rhwng yr heddlu a'r CPS perthynas o dan straen, diffyg gweithio ar y cyd a gohiriadau hir wrth ddod i wneud penderfyniadau.
Pwysleisiodd yr ymchwiliad bod gormod o bwyntio bysedd rhwng y ddau wasanaeth a bod pryderon am gyfraddau isel o ddedfrydau'n arwain at ddull mwy pwyllog o drin ymchwiliadau o dreisio.
"Mae'r achosion yma'n gymhleth yn eu natur," meddai. "Mae wir yn bwysig bod erlynwyr a swyddogion heddlu'n gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd o'r cyfnodau cynharaf i geisio adeiladu achosion a dyna beth rydw i'n benderfynol o wneud."
Pwysleisiodd adolygiad diweddar Llywodraeth y DU hefyd bod ffocws anghymesur ar y dioddefwr - rhywbeth sydd ddim yn cael ei wneud wrth edrych ar unrhyw drosedd arall.
"Mae angen i ni roi'r pwyslais ar y troseddwr - i ganolbwyntio ar weithrediadau'r troseddwr ac i edrych ar ba mor rhesymol roedden nhw. Gallan nhw'n rhesymol wedi credu bod y dioddefwr yn rhoi caniatâd, wrth edrych ar yr holl amgylchiadau?"
Embaras?
Dywedodd yr arolygiaeth fod anghenion y dioddefwr yn gymharol fach: gwell cyfathrebu ac empathi gan wasanaethau.
Ydy hyn yn achosi embaras i'r CPS nad yw rhywbeth mor syml â hyn wedi cael ei wneud?
"Dwi'n credu bod dioddefwyr yn haeddu disgwyl y byddan nhw'n derbyn ansawdd da o gyfathrebiad ganddom ni," meddai Ms Hopkins, sy'n wreiddiol o Abertawe.
"Mae hynny'n rhywbeth mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith arno," meddai, gan egluro bod pob un achos o dreisio wedi'u trosglwyddo at erlynydd arbenigol.
"Rydyn ni'n ddiweddar wedi diweddaru ein cyngor cyfreithiol ar gyfer erlynwyr am y chwedlau a stereoteipiau, ar drawma - sut mae dioddefwyr yn cyflwyno'i hunan - felly mae yna lot o waith yn cael ei wneud yn y maes yna.
"Beth rydyn ni'n dweud wrth ddioddefwyr yw 'dewch ymlaen, byddwn yn delio gyda'ch achos mewn ffordd broffesiynol a'n brydlon a byddwch yn cael eich trin gyda pharch'."
Bydd y gwasanaeth yng Nghymru - ynghyd â Heddlu De Cymru - ymysg y rheiny fydd yn cychwyn mentrau newydd i wella'r canlyniad ar gyfer y rheiny sy'n adrodd am dreisio.
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n tueddu gwneud y cyswllt cyntaf gyda'r dioddefwr pan ry'n ni wedi gwneud penderfyniad am a ddylwn gyhuddo neu beidio. Hoffwn ddod â hynny ymlaen, felly unwaith mae achos wedi'n cyrraedd mi fyddwn yn cyfathrebu a'n dweud ein bod yn ystyried yr achos ac wedyn byddwn yn gallu diweddaru dioddefwyr trwy gydol y broses."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020