Her gyfreithiol yn bosib dros wrthod ffordd osgoi Llanbedr
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn "ystyried opsiynau cyfreithiol" yn erbyn Llywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad gweinidogion i beidio â bwrw ymlaen â ffordd osgoi Llanbedr yn y sir.
Yn ôl arweinydd y cyngor, mae adroddiad ar ran y llywodraeth sy'n edrych ar effaith y datblygiad ar lefelau CO2 yr ardal yn "gamarweiniol, rhagfarnllyd a gwallus".
Mae cynghorydd lleol wedi cyhuddo gweinidogion o roi "sbin gwleidyddol" ar y mater wrth gyhoeddi'r tro pedol yn ystod uwchgynhadledd COP26 fis diwethaf.
Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod yr adroddiad yn "ymgais onest ac egwyddorol" i gyfleu'r argyfwng hinsawdd ac na fyddai'n ailystyried y mater.
Mae'r galw am ffordd osgoi i Lanbedr yn ymestyn dros gyfnod o fwy na 60 o flynyddoedd oherwydd problemau traffig.
Tra bod y cynllun wedi ei gymeradwyo'r llynedd gan Barc Cenedlaethol Eryri, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydden nhw'n bwrw ymlaen â'r cynllun oherwydd effaith y datblygiad ar yr amgylchedd.
Dywedodd adroddiad a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru y gallai'r datblygiad gael effaith negyddol ar lefelau CO2.
Fe arweiniodd hynny at weinidogion yn cyhoeddi ym mis Tachwedd 2021 eu bod nhw'n gwrthod y datblygiad.
Ond mae Cyngor Gwynedd rŵan wedi beirniadu'r adroddiad fel un "rhagfarnllyd" a "gwallus" gan gyhuddo'r llywodraeth o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth anghywir.
'Gadael pobl Llanbedr i lawr'
"Mae'r holl waith 'da ni wedi rhoi mewn yn rhan o'r rheswm dwi mor ddig, ond yn fwy na dim 'da ni'n gadael pobl Llanbedr i lawr", meddai arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn.
Mewn llythyr a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru, dywedodd fod sail eu hadroddiad yn "wallus" ac nad oedd ystyriaeth i effaith y penderfyniad yn lleol.
Dywedodd hefyd fod y llywodraeth wedi camarwain Cyngor Gwynedd.
Galwodd y gwaith ymchwil yn "arwynebol", a dywedodd ei fod yn dangos diffyg dealltwriaeth ar yr effaith ar Faes Awyr Llanbedr, ac o faint a'r math o dwristiaeth yn lleol.
Yn ôl yr arweinydd, mae'r cyngor rŵan yn edrych ar opsiynau cyfreithiol i herio penderfyniad Llywodraeth Cymru.
"Da ni ar ddechrau'r daith honno.
"Dwi ddim eisiau bygwth y llywodraeth ond os ydan ni'n gweld fod 'na sail gyfreithiol inni hyd yn oed adennill ein costau yna fe ddylem ni wneud hynny."
Prif sail Llywodraeth Cymru dros wrthod y mater yw pryderon y byddai'r cynllun yn niweidiol i'r amgylchedd drwy achosi rhagor o allyriadau carbon.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn dadlau fod gwaith ymchwil yn dangos y byddai lefelau yn gostwng o 3.6% gan na fyddai ceir yn sefyll yn stond ar lonydd cul yr ardal, yn enwedig dros gyfnod yr haf.
Pryderon am ddiogelwch
O ffenest ei siop ar y brif lôn mae Olwen Lloyd Jones yn gweld helyntion a thagfeydd yr ardal yn ddyddiol.
Flwyddyn yn ôl fe benderfynodd hi a'i theulu symud o Lanbedr i Harlech oherwydd pryderon am ddiogelwch y lôn.
"Da ni 'di mynd," meddai.
"'Di o ddim yn bell a dwi yma o hyd efo'r siop ond ma'i lot distawach a saffach yn Harlech.
"Mae gennai wyrion ac o'dd o'n beryg, does dim pafin really felly [dydy o] ddim yn saff o gwbl."
Fe wnaeth Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod wedi gwrthod y cynllun yn ystod cynhadledd COP26 fis diwethaf, ac mae'r cynghorydd lleol Annwen Hughes wedi cyhuddo gweinidogion o roi "sbin gwleidyddol" ar y penderfyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes mai ceisio dangos eu hymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd i wledydd eraill oedd y llywodraeth, ond eu bod wedi gwneud hynny ar draul pobl leol.
Mae'r prif weinidog bellach wedi ysgrifennu yn ôl at arweinydd y cyngor gan ddweud fod yr adroddiad yn ymgais "onest ac egwyddorol i geisio newid cyfeiriad polisi trafnidiaeth i ymateb i'r wyddoniaeth frawychus yn sgil newid hinsawdd".
Mae'n cydnabod teimladau cryf pobl yn lleol ond yn dweud "ni fyddwn yn diwygio'r penderfyniad".
Wrth ymateb i'r sylwadau lleol, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori gyda'r cyngor yn rheolaidd a'u bod wedi ymrwymo i weithio gyda'r awdurdod er mwyn canfod atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â'r problemau traffig a thagfeydd yn lleol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021