Apêl am help gyda gofal i osgoi blocio gwlâu ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Llun stoc o fenyw oedrannus gyda gweithiwr gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod yr apêl yw sicrhau gofal i berthnasau sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty, ond yn aros am gymorth gofal yn y gymuned

Mae un o fyrddau iechyd Cymru yn gofyn am gymorth y cyhoedd i leihau'r pwysau ar ysbytai.

Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yw'r diweddaraf i apelio ar bobl i gynnig gofal i berthnasau sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty, ond yn aros am gymorth gofal yn y gymuned.

Mae galwadau tebyg wedi bod gan fyrddau iechyd Bae Abertawe, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn dweud ei bod hi'n deall pam bod y byrddau iechyd yn dweud hyn oherwydd y pwysau ar ysbytai ar hyn o bryd.

Mewn neges ar y cyd â chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg a'r gwasanaeth ambiwlans, mae'r bwrdd yn gofyn i bobl ystyried sut allen nhw helpu lleihau'r pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth ar hyn o bryd.

Maen nhw'n dweud eu bod yn wynebu galw digynsail am wasanaethau iechyd a gofal, gyda chynnydd o 30% yn nifer y bobl sydd angen gofal yn eu cartrefi yn yr ardal.

Ymhlith yr awgrymiadau, mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i bobl a allen nhw fod yn gofalu am berthynas sy'n gadael yr ysbyty, er mwyn rhyddhau gofal ar gyfer pobl eraill sy'n agored i niwed, neu heb unrhyw gymorth.

Maen nhw'n gofyn hefyd i bobl ystyried trefnu eu gofal eu hunain yn hytrach na defnyddio asiantaeth gofal.

Ond mae elusen sy'n cynrychioli gofalwyr yn dweud eu bod nhw'n poeni y bydd yna fwy o bwysau arnyn nhw yn dilyn yr alwad ddiweddaraf hon gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Beth Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cefnogaeth bellach ar ofalwyr, medd Beth Evans, wedi misoedd heriol y pandemig

"Mae gofalwyr wedi sefyll lan dros y ddwy flynedd ddiwetha', a maen nhw wedi rhoi eu bywydau ar stop i ofalu am bobl," meddai Beth Evans sy'n rheolwr polisi Gofalwyr Cymru

"Dwi'n deall bod problem gyda'r system fel mae e', ond mae angen i ofalwyr gael y gefnogaeth sydd angen arnyn nhw neu bydd y gwasanaethau'n cael dau glaf yn lle un."

Dangosodd gwaith ymchwil Gofalwyr Cymru yn gynharach eleni bod 72% o'r gofalwyr di-dâl a gafodd eu holi wedi blino'n llwyr, yn dilyn y pwysau ychwanegol arnyn nhw yn ystod y pandemig.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro hefyd yn apelio ar bobl sydd â diddordeb mewn bod yn weithiwr gofal neu wedi bod yn gweithio yn y maes yn y gorffennol i gysylltu â nhw.

'Ni 'di rhoi lot o arian ychwanegol i'r sector'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sylweddoli bod y system dan bwysau ar hyn o bryd, ond yn mynnu bod arian ychwanegol ar gael i helpu.

"Dwi'n deall pam mae rhai o'n byrddau iechyd ni wedi gofyn i deuluoedd i helpu allan trwy gymryd pobl allan o'r ysbytai os mae hynny'n bosibl," meddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

"Ni 'di rhoi lot o arian ychwanegol i'r sector gofal yn ystod y misoedd diwetha'.

"Byddwn ni'n canolbwyntio nawr ar weld os allwn ni dalu'r cyflog byw go iawn i ofalwyr, a be' sy'n bwysig yw bod pobl yn deall hefyd bod lot o arian ychwanegol wedi cael ei roi i helpu pobl sydd ddim yn cael eu talu yn ffurfiol yn y sector gofal."