'GIG o dan y pwysau mwyaf erioed' medd y pennaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Lisabeth McLean bod ei phrofiad diweddar o adran frys ysbyty "yn teimlo fel warzone"

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru o dan y straen mwya' yn ei hanes yn ôl y pennaeth, gyda "gweithlu blinedig" yn paratoi ar gyfer y gaeaf mwyaf anodd eto.

Mae Dr Andrew Goodall yn rhybuddio fod y gwasanaeth "gyda'r prysuraf rydym wedi'i weld" oherwydd Covid-19.

Mae galw enfawr am ofal arall hefyd, a'r nifer ucha' erioed o bobl yn aros am driniaethau.

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu ei chynllun ar gyfer delio â phwysau'r gaeaf, sy'n cynnwys £40m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, mae Dr Goodall yn rhybuddio fod prinder gofalwyr yn gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn fwy anodd eleni.

Yn y cyfamser mae 17 sefydliad sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd wedi rhybuddio "bod argyfwng y gaeaf yn gwaethygu".

'Y cyfnod mwya' heriol'

Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru: "Mae'n teimlo mai dyma'r cyfnod mwya' heriol… ac mi allwn ni weld hynny yn y data.

"Yn ogystal â chanolbwyntio ar coronafeirws, mae'r gwasanaeth iechyd yn ceisio ailafael mewn ystod eang o weithgarwch ar draws nifer o leoliadau.

"Mae gennym ni 700 o gleifion Covid mewn gwlâu yn ein hysbytai ac er bod hynny 80% yn is na'r brig - mae hynny'n cyfateb i gapasiti dau ysbyty cyffredinol o faint canolig… hefyd mae 'na lefel uchel o alw ar ein gwasanaethau brys, y nifer ucha' o alwadau am ambiwlans, ac mae staff gofal sylfaenol yn dweud eu bod yn brysurach nag erioed.

"Dwi'n meddwl mai dyma'r pwysau mwyaf mae'r system gyfan wedi'i weld."

Bydd ystadegau perfformio diweddara'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sy'n cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach ddydd Iau, yn dangos maint yr her wrth i'r gaeaf agosáu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawdriniaethau arferol wedi gorfod cael eu gohirio oherwydd y pandemig

Fis diwetha' cafodd y ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed eu cofnodi gan adrannau brys ysbytai Cymru - gyda dim ond 68.7% o gleifion yn treulio llai nai phedair awr cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Y targed yw 95%.

Roedd effaith y pandemig i'w weld ar restrau aros hefyd gyda 643,108 - dros 20% o boblogaeth Cymru - ar restrau aros y GIG yng Nghymru.

Mae Dr Goodall yn cydnabod ei bod hi'n debygol y bydd rhai llawdriniaethau yn cael eu gohirio yn ystod y gaeaf - fe fydd hynny yn cael effaith ar y nod o geisio lleihau'r rhestrau aros.

Penderfyniadau lleol

"Yn anochel fe fydd 'na beth tarfu, ac fe fydd hynny'n cynnwys gofal wedi'i gynllunio. Ond mae'r GIG wedi ymrwymo i gynnal cymaint â phosib o weithgarwch ym mhob un o'i ganolfannau am ba mor hir ag sy'n bosibl," meddai.

"Rydyn ni wedi gweld peth adferiad yn ein gweithgarwch ond fe fydd yn cael effaith ar faint o gleifion allwn ni eu gwella a pha mor gyflym."

Dywedodd fod angen i'r byrddau iechyd wneud penderfyniadau lleol ynglŷn ag i ba raddau y gallai gwasanaethau sydd ddim yn rhai brys gael eu diogelu yn wyneb pwysau eraill.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddai'n "anodd iawn" i weithio drwy'r rhestrau aros y gaeaf hwn ond y dylai byrddau iechyd "gadw mewn cyswllt" a chynnig cefnogaeth fel meddyginiaeth lleddfu poen i gleifion sy'n aros.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Andrew Goodall ei fod yn pryderu am wytnwch y sector gofal

Ynghyd ag arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen y GIG - mae cynllun pwysau'r gaeaf Llywodraeth Cymru yn cynnwys £40m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.

Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty.

Mae Dr Goodall yn cydnabod fod prinder staff ym maes gofal yn bryder sylweddol.

"Mae gwytnwch y system ofal yn bryder - mae'n teimlo fel ei fod ar ei lefel mwya' bregus hyd yn oed gyda'r cymorth sydd ar gael," meddai.

"Rydym wedi darparu cyllid i sicrhau bod y sector gofal yn cael ei gefnogi ymhellach ond mae materion cysylltiedig â'r gweithlu yn broblem - boed yn bobl sy'n dewis dechrau gyrfa gofal neu nifer yr achosion cymunedol o Covid sy'n golygu bod yn rhaid i staff hunan-ynysu."

Staff blinedig

Yn y cyfamser mae 17 o gyrff sy'n cynrychioli staff iechyd wedi dod ynghyd i rybuddio am argyfwng y gaeaf, gan alw am gynllun cenedlaethol i fynd i'r afael â phrinder staff.

Mewn arolwg diweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon dywedodd 46% o'r rhai wnaeth ymateb yng Nghymru nad oedd eu sefydliad yn barod o gwbl ar gyfer y gaeaf.

Roedd 37% yn teimlo nad oedden nhw'n bersonol yn barod a dywedodd 63% eu bod wedi blino'n lan.

Pan gafodd Dr Goodall ei holi os allai pwysau'r gaeaf "fod yn ormod" i staff blinedig, dywedodd: "Mae hyn [cyfnod y pandemig] wedi bod yn brofiad llawer mwy difrifol ac wedi para'n hirach nag y byddai llawer ohonom wedi'i ragweld.

"Pan fyddwn fel arfer yn sôn am 'ddigwyddiad difrifol' ym maes iechyd, rydym yn sôn am ychydig oriau neu ddyddiau. Rydym wedi bod mewn 'digwyddiad difrifol' ers 20 mis bellach.

"Mae angen i bawb wneud eu rhan gan gynnwys y cyhoedd... ond rwy'n gwybod y bydd staff y GIG yn gwneud eu gorau glas."