Oes angen ffilmio yn Gymraeg a Saesneg?
- Cyhoeddwyd
Ydy'r arfer o ffilmio cyfresi drama gefn wrth gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg yn arfer rhyfedd?
Dyna ddywedodd yr actores Annes Elwy, sy'n chwarae rhan Cadi mewn ffilm arswyd newydd uniaith Gymraeg o'r enw Gwledd (The Feast yn Saesneg), mewn cyfweliad gyda chyfryngau'r Unol Daleithiau.
Gofynnodd pam dylid gwneud hyn yn hytrach nag allforio'r cyfresi yn y Gymraeg gydag is-deitlau?
"Mae'n bizarre, oherwydd rydyn ni mor agored i wylio cynyrchiadau ieithoedd tramor," meddai wrth blatfform adolygu ffilmiau Pop Horror wrth i'r ffilm gyrraedd sgriniau America.
"Dwi'n meddwl mai dyma pam roeddwn wedi cyffroi gymaint gan y sgript (i Gwledd) oherwydd doedd o ddim am blygu i'r syniad y byddai Saesneg yn ei wneud yn fwy diddorol a jest yn cofleidio'r ffaith ein bod yn byw mewn gwlad a'n bod yn siarad iaith.
"Pam ddim actio yn ein hiaith a chreu straeon yn ein hiaith a'u lledaenu nhw?"
Yn ôl Annes mae teimlad yn y cyfryngau Cymraeg na fyddai gweddill y byd eisiau clywed ffilm newydd os fyddai'n Gymraeg.
Beth ydy barn rhai o enwau mwyaf byd teledu a chelfyddydau Cymru felly?
Bu Catrin Haf Jones yn holi'r cynhyrchydd Branwen Cennard, yr actores Gillian Elisa a chyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd ar BBC Radio Cymru.
'Diangen'
"Cytuno cant y cant. Bizarre, diangen, hen ffasiwn, hen bryd i ni symud 'mlaen," meddai Branwen Cennard ar raglen Dros Ginio.
"Dwi'n siarad fel rhywun oedd yn rhan o'r rhaglen gyntaf erioed gafodd ei saethu fel hyn, sef Heliwr.
"Roedd hyn yn beth chwyldroadol, newydd, a'r bwriad oedd agor y drysau rhyngwladol i gynnyrch o Gymru. Ond y gwir yw does dim datblygiad wedi bod o gwbl mewn deg mlynedd ar hugain a rydyn ni'n dal yn gweithio yn yr un hen ffordd.
"Pan rydych chi'n rhoi hwnna mewn cyd-destun rhyngwladol mae'n ymddangos yn aruthrol o hen ffasiwn erbyn hyn."
Ymhlith rhai o'r cynyrchiadau diweddar sydd wedi cael eu saethu cefn wrth gefn yn Gymraeg a'r Saesneg mae Y Gwyll, Un Bore Mercher a Craith - yr olaf gydag Annes Elwy yn serennu ynddi.
Mae rhain yn enghreifftiau o rai sydd wedi cael eu gwerthu yn llwyddiannus yn rhyngwladol, mae Catrin Haf Jones yn nodi.
Ond mae Branwen Cennard yn codi'r pwynt fod ei chynhyrchiad diwethaf, Byw Celwydd, hefyd wedi ei gwerthu yn rhyngwladol yn America ac ar hyd a lled Ewrop a hithau'n gynhyrchiad uniaith Gymraeg.
Cyhoeddodd Fflur Dafydd yn ddiweddar bod ei chyfres hi, Yr Amgueddfa, hefyd wedi gwerthu yn Gymraeg yn unig, mae Branwen yn ategu.
'Gallu i werthu ei hunan'
Un arall oedd yn rhan o'r gyfres gyntaf honno, Yr Heliwr, yn 1991 oedd yr actores Gillian Elisa.
Roedd yn brofiad "cynhyrfus iawn" ar y pryd, meddai, ond mae hi'n cytuno gyda safbwynt Annes Elwy.
"Chi ddim yn gallu cyfieithu yn llythrennol i ddechrau - mae e fel gwneud ffilm arall. Bydde' fe lot gwell bydden ni'n rhoi'r arian 'na at gyfieithu fe i'r Saesneg ar ddrama Cymraeg arall.
"Roedd Hedd Wyn wedi mynd i'r Oscars yn yr iaith Gymraeg felly beth yw'r broblem, fi ddim yn gwybod.
"Mae isie ni fod yn lot fwy hyderus i hybu'r rhaglenni 'ma a pheidio ymddiheuro a bod yn hunanymwybodol. Mae'r Gymraeg â'r gallu i werthu ei hunan yn iawn.
"Ro'n i'n chwarae rhan mam oedd yn siarad Cymraeg a pan oedden ni'n gwneud y fersiwn Saesneg doedd y fam ddim yn siarad Saesneg ond isdeitlau yn dod lan. Pam ddim jest gwneud Craith yn Gymraeg?" meddai.
'Cwestiynau moesol'
Pryder arall yw'r effaith gall saethu yn ddwyieithog gael ar actorion Cymru.
Meddai Gillian Elisa: "Trwy werthu'r fersiynau Saesneg, sydd yn aml yn cynnwys actorion sydd ddim yn Gymry a sydd ddim yn siarad Cymraeg, dydyn ni ddim yn gwneud dim ffafrau gyda ni'n hunain o gwbl o safbwynt codi ymwybyddiaeth o'r môr o dalent aruthrol sydd gyda ni fan hyn yng Nghymru."
"Mae e hefyd yn effeithio ar gastio yn fawr iawn," esbonia Branwen Cennard, "achos yn aml iawn beth sydd yn digwydd yw 'y ni yn mewnforio pobl ddi-Gymraeg i chwarae'r prif rannau 'ma."
Mae Branwen hefyd yn codi cwestiynau ynghylch "dilysrwydd creadigol" cynyrchiadau.
"Roedd Eddie Redmain yn difaru ei fod wedi cymryd y rôl wnaeth e yn The Danish Girl. Mae Russell T Davies yn honni mai dim ond actorion hoyw dyle fod yn chwarae dynion hoyw. Bydde' chi byth yn gofyn wrth actor sydd ddim yn anabl i esgus bod yn anabl.
"Felly pam gofyn i bobl nad ydyn nhw yn siarad Cymraeg yn rhugl i straffaglu, fel oedd Eve Myles druan,yn gorfod gwneud yn Un Bore Mercher?"
"Mae 'na lot o gwestiynau moesol pwysig iawn yn fan hyn."
Cynhyrchiad theatr yn 'adlewyrchu realiti'
Yn rhan o'r sgwrs hefyd oedd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd sydd yn gweithio ar y cyd gyda'r National Theatre of Wales a chwmni Ffrengig ar gynhyrchiad tairieithog o'r enw Petula.
"Mae ychydig bach yn fwy heriol pan rydan yn sôn am ddenu cynulleidfa Cymraeg i gynyrchiadau theatr Gymraeg gydag uwchdeitlau wrth gwrs," meddai.
"Rydan ni'n arbrofi gyda ffurf wahanol o wneud hynny ac mae cyflwyno'r Saesneg ochr yn ochr â'r Gymraeg mewn sefyllfa naturiolaidd fel petai ar lwyfan yn un fodd."
Mae'n nodi nad oes modd cymharu amlieithrwydd ym myd teledu a theatr ond ei fod yn credu fod cael y ddwy iaith ochr yn ochr yn adlewyrchu profiad bywyd pobl yng Nghymru heddiw. "Ychydig iawn ohonom ni beryg iawn sydd yn gallu byw ein bywydau yn gyfan gwbl Gymraeg o un pen o'r diwrnod i'r llall.
"'Dan ni fel arfer yn troi nôl a blaen rhwng y ddwy iaith ac mae hwnna yn adlewyrchiad o brofiad bywyd y rhan helaethaf o bobl yng Nghymru byddwn i'n tybio.
"Mae'n deg o bryd i'w gilydd bod ni'n adlewyrchu realiti'r bywyd hwnnw yn y cynyrchiadau theatr rydan ni'n eu cyflwyno."
'Dadl wahanol'
Wrth drafod y posibilrwydd o gyfuno'r ddwy iaith mewn cynhyrchiad teledu cyfeiria Gillian Elisa at y ffilm Ar y Tracs lle'r oedd y Gymraeg a'r Saesneg yn bodoli mewn un.
"Roedd hwnna yn arbrofol iawn a does dim byd wedi dod o hwnna. Roedd e wedi gweithio'n dda iawn achos roeddech chi'n cael y ddwy iaith ac roedd e'n gredadwy fel ry'n ni heddiw," meddai.
"S'dim ishe dirywio'r iaith wrth gwrs ond roedd 'na obaith fy'na a 'fallai bod eisiau mwy o hynny hefyd."
"Mae 'na ddwy ddadl hollol wahanol yn fan hyn," meddai Branwen Cennard.
"Fyddwn i wrth gwrs ddim yn erbyn y math o beth ble mae'r ddwy iaith gyda'i gilydd.
"Ond dwi ddim yn meddwl bod 'na ddim byd negyddol pan rydych chi'n mynd ati i wneud ffilm yn y Gymraeg sydd wedi ei gosod yng Nghymru eich bod chi yn creu byd lle mae'r iaith Gymraeg yn gwbl dderbyniol ac yn gwbl gredadwy ac wedyn ein bod yn mynd yn ein blaenau i werthu'r fersiwn yna gydag isdeitlau i bawb arall i gael elwa o'r profiad."
Hefyd o ddiddordeb: