Achos o ffliw adar wedi ei gadarnhau ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
adarFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop wedi cadarnhau bod ffliw adar wedi'i ganfod ar safle sy'n cynnwys cymysgedd o wahanol ddofednod ger Crughywel ym Mhowys.

Mae ieir, hwyaid, gwyddau, twrcwn, ffesantod, elyrch a rheaod yn cael eu cadw ar y safle.

Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km bellach wedi ei gosod o amgylch y safle heintiedig i gyfyngu ar y risg o ledu'r clefyd.

Daw hyn wedi i fesurau newydd ar gadw dofednod ddod i rym ar draws Cymru gyfan.

'Risg isel i bobl'

Cafodd yr achos cyntaf o ffliw adar ei gadarnhau yn ardal Wrecsam fis diwethaf, a hynny yn dilyn achosion tebyg diweddar yn y DU ac ar gyfandir Ewrop.

Yr wythnos diwethaf cafodd achos ei gadarnhau ar Ynys Môn.

Ond dywedodd y prif swyddog milfeddygol fod y risg i iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn "isel iawn", ac nad ydyn nhw'n peri risg i ddiogelwch bwyd.

Ni ddylai'r cyhoedd godi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw, ond yn hytrach, fe ddylen nhw gysylltu â llinell gymorth Defra os ydyn nhw'n dod i gyswllt ag anifail heintus.

Mewn datganiad nos Wener dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: "Mae'r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod cymysg yn dystiolaeth bellach o'r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch.

"Mae mesurau lletya newydd wedi dod i rym i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o'i gyfuno â gweithredu'r mesurau bioddiogelwch llymaf.

"Dyma'r trydydd achos o ffliw adar sydd wedi'i gadarnhau yng Nghymru hyd yma y gaeaf hwn, sy'n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod ceidwaid adar yn wyliadwrus.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw'n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.

"Rhaid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall."

Pynciau cysylltiedig